S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr i'r Gwyll yng Nghernyw

04 Ebrill 2014

Y Gwyll / Hinterland sydd wedi ei gwobrwyo fel y gyfres ddrama orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, 2014.

Daeth y ddrama, a ddarlledwyd gyntaf ar S4C yn hydref 2013, i'r brig mewn categori cystadleuol iawn gydag un arall o gyfresi llwyddiannus S4C, Alys (Teledu Apollo, rhan o Boom Pictures Cymru) wedi ei henwebu am yr un wobr.

Wedi eu henwebu yn y categori hefyd roedd The Fall (gan Artists Studio Ltd ar gyfer y BBC) a Doctor Who (BBC Cymru Wales).

Daw'r wobr ar yr un diwrnod â chyhoeddiad y bydd Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd am ail gyfres yn ystod diwedd 2014/dechrau 2015, gyda'r gwaith o gynhyrchu'r gyfres i ddechrau yng Ngheredigion ym mis Medi 2014.

Mae Y Gwyll/Hinterland yn gynhyrchiad Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd.

Dywedodd Gethin Scourfield, ar ran y tîm cynhyrchu yn Fiction Factory, "Rwy'n amlwg yn falch iawn o ennill y wobr hon o ystyried y gystadleuaeth gref. Diolch i bawb; yr ysgrifenwyr, y cast a'r criw. Mae pawb wedi gweithio yn ofnadwy o galed. Ond byddai dim yn bosib heb groeso a chydweithrediad pobl Aberystwyth a'r ardal. Edrych ymlaen at y gyfres nesa!"

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Llongyfarchiadau i gynhyrchwyr Y Gwyll/Hinterland. Maen nhw wedi ennill mewn categori ofnadwy o gryf. Cyffrous dros ben. Ffantastig!"

Dyma'r drydedd wobr i raglenni S4C yn yr ŵyl eleni. Ar ddydd Mercher, 2 Ebrill, daeth y ffilm ddogfen Gerallt (Cwmni Da) i'r brig yn y categori Celfyddydau, a'r gyfres ddogfen i bobl ifanc #FI (Boom Plant, rhan o Boom Pictures Cymru) enillodd yn y categori Plant.

Mae'r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghernyw eleni yn nhref Porth Ia (St Ives) rhwng 2 a 4 Ebrill.

Mewn rhifyn arbennig o Heno ar S4C nos Lun, 7 Ebrill 7.00, bydd Aneirin Karadog a Gwenno Saunders yn cyflwyno golwg ar ddigwyddiadau'r ŵyl sy'n dathlu'r gorau o ddarlledu ar radio a theledu yn y rhanbarthau Celtaidd – Cernyw, Cymru, Iwerddon, Llydaw, Ynys Manaw a'r Alban.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?