S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gerallt – prif enillydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

04 Ebrill 2014

Y ffilm ddogfen deimladwy Gerallt sydd wedi ennill prif anrhydedd Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2014.

Ysbryd yr Ŵyl yw gwobr bwysicaf yr ŵyl ac fe'i rhoddir i gynhyrchiad o ansawdd uchel sydd yn llwyr neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd.

Roedd y cynhyrchiad gan Cwmni Da eisoes wedi ennill gwobr yn y categori Celfyddydau ar brynhawn Mercher, 2 Ebrill.

Mae'r ffilm ddogfen, a ddarlledwyd gyntaf ym mis Mawrth 2013, yn gofnod onest a threiddgar am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy’n codi’r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rai o gerddi enwocaf Cymru.

Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i’w gartref, ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o’i deulu, mae’r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i’r persona cyhoeddus.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Llongyfarchiadau i'r tîm i gyd yn Cwmni Da ar eu llwyddiant heddiw. Mi roedd Gerallt yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'n hamserlen. Mae hyn yn cadarnhau bod safon rhaglenni dogfen S4C gyda'r gorau yn y gwledydd Celtaidd ac yn tanlinellu'r dalent sydd yn y sector gynhyrchu yng Nghymru."

Wrth dderbyn y wobr yn y categori Celfyddydau ar brynhawn Mercher, 2 Ebrill, fe ddywedodd cyfarwyddwr y ffilm ddogfen, Guto Williams, "Mae wedi bod yn anrhydedd cael gwneud y ffilm. Mae Gerallt bellach wedi encilio o lygaid y cyhoedd ac felly roedd yn fraint cael gwneud rhywbeth arno yn lle cynta’. Mae o'n ddyn sy'n byw i'w farddoniaeth, ac roeddem yn teimlo fod y rhaglen hon yn gofnod pwysig oedd angen ei wneud."

Mae'r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghernyw eleni yn nhref Porth Ia (St Ives) rhwng 2 a 4 Ebrill.

Mewn rhifyn arbennig o Heno ar S4C nos Lun, 7 Ebrill 7.00, bydd Aneirin Karadog a Gwenno Saunders yn cyflwyno golwg ar ddigwyddiadau'r ŵyl sy'n dathlu'r gorau o ddarlledu ar radio a theledu yn y rhanbarthau Celtaidd – Cernyw, Cymru, Iwerddon, Llydaw, Ynys Manaw a'r Alban.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?