S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio gwefan Clic newydd - gwasanaeth ar-alw hyblyg gyda gwedd newydd gyfoes

10 Ebrill 2014

Heddiw mae S4C wedi lansio gwasanaeth ar-lein Clic ar ei newydd wedd gyda system newydd sy'n golygu bod gwylio cynnwys y Sianel, yn fyw ac ar-alw, yn fwy cyfleus nag erioed.

Mae'r wefan Clic newydd yn system hyblyg fydd yn gweithio ar amryw o blatfformau – gan gynnwys y platfformau mwyaf poblogaidd, Apple ac Android - ac yn addasu ei hun ar gyfer maint y ddyfais sy'n cael ei defnyddio.

Mi fydd hefyd am y tro cyntaf yn caniatáu i wylwyr rannu gwybodaeth am y cynnwys ar rwydweithiau cymdeithasol.

Ynghlwm â hyn, mae gan Clic wedd newydd ffres a chyfoes – newidiadau fydd yn atseinio ar hyd holl wasanaethau S4C, ar-lein ac ar deledu.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Rwy' wedi sôn droeon mai'r ffordd orau o ddiogelu dyfodol darlledu Cymraeg ydi sicrhau fod y cynnwys ar gael drwy ba bynnag ddull mae'r gwylwyr yn dymuno ei ddefnyddio. Mae gwefan Clic yn ganolog i wasanaeth digidol y Sianel ac yn galluogi pobl i ddefnyddio Clic ar fwy o ddyfeisiadau ac ar fwy o blatfformau.

"Mae datblygiadau ym myd technoleg yn ein cadw ni ar flaenau'n traed wrth i'r platfformau a'r dyfeisiadau poblogaidd esblygu. Gyda'r safle Clic newydd, sy'n gallu ymateb i ddyfeisiadau unigol, mi fydd yn haws i ni ymdopi gyda datblygiadau'r dyfodol am y bydd hi'n fwy ymarferol a fforddiadwy i ni addasu ein gwasanaeth i gynnwys y dulliau gwylio diweddaraf.

"Wrth lansio'r Clic newydd, ry ni'n gobeithio y bydd ein gwylwyr yn cytuno fod y wedd newydd yn ddeniadol ac yn fodern, a bod y gwasanaeth yn hawdd i'w defnyddio. Mae hyn hefyd yn gam newydd i S4C oherwydd am y tro cyntaf, mae ein gwasanaeth ar-lein wedi arwain delwedd y Sianel gyfan. Mae'n arwydd o'n hagwedd ni wrth edrych i'r dyfodol a chydnabod fod pobl o bob oed yn manteisio ar gyfleoedd y we ar gyfer mynd at gynnwys teledu."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?