S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin

01 Mai 2014

Bydd digwyddiad arbennig sy’n rhoi’r ffocws ar ffilmiau Cymraeg yn cael ei gynnal drwy bartneriaeth rhwng S4C a Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, fel rhan o ddathliad o fyd ffilm yng Nghymru a’r tu hwnt.

Ar ddydd Mawrth, 6 Mai bydd diwrnod Cymraeg Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn cael ei gynnal - gydag amserlen lawn o gyflwyniadau, sesiynau trafod, a dangosiadau o ffilmiau a rhaglenni S4C. Cynhelir holl ddigwyddiadau'r diwrnod yn Ystafell Alexander, Gwesty Parc y Strade yn nhref Llanelli.

Bydd dangosiad o ffilm S4C Y Syrcas, ffilm hudolus i’r teulu cyfan sydd wedi ei gosod ym 1848, ac yn adrodd stori merch ifanc sy’n cael ei hudo gan fywyd byrlymus y syrcas wrth iddi ymweld â’i phentref yng ngorllewin Cymru.

Bydd cyfleoedd hefyd i weld rhagor o'r ffilmiau a enwebwyd ar gyfer Gwobr John Hefin a chynhelir sesiwn drafod ar gomisiynu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen a hynny yng nghwmni Osian Williams - gwneuthurwr ffilmiau dogfen a enillodd wobr BAFTA Cymru'r llynedd.

Yn dilyn hynny bydd dangosiad o bennod gyntaf cyfres dditectif hynod lwyddiannus S4C, Y Gwyll, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Yna, bydd cyfle i drafod Y Gwyll ymhellach yng nghwmni Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, a'r cyfarwyddwr ffilmiau Marc Evans, a oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo pennod gyntaf Y Gwyll.

Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C fydd yn rhoi cyflwyniad ar Ddatblygiadau Cyfryngau Digidol yr iaith Gymraeg mewn sesiwn drafod arall.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Pennaeth Partneriaethau S4C:

“Rydym yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o ŵyl leol fel hon, sydd yn annog a meithrin talent a gwneuthurwyr ffilm y dyfodol, wrth iddi gynnig cyfleodd yn y Gymraeg am y tro cyntaf.”

Meddai Kelvin Guy, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin:

"Rydw i wrth fy modd bod S4C yn ein cefnogi wrth i ni ymdrechu i hyrwyddo creu ffilmiau trwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin. Yn enwedig gan ein bod eleni wedi lansio Gwobr John Hefin am y ffilm fer orau yn y Gymraeg."

Cynhelir Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin eleni o ddydd Llun 5 Mai hyd at ddydd Sul 11 Mai. Bwriad yr Ŵyl yw annog a gwobrwyo gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol ym Mhrydain a thu hwnt.

I weld yr amserlen lawn ac am ragor o wybodaeth ewch i www.carmarthenbayfilmfestival.co.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?