S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

App yr Urdd – yr Eisteddfod ym mhob man

21 Mai 2014

Mae app newydd Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 ar gael i’w lawr lwytho nawr.

Dyma ffordd hwylus o ddilyn holl ddigwyddiadau'r ŵyl ble bynnag yr ydych chi – ar y Maes neu ym mhen arall y wlad.

Drwy'r app gallwch weld y canlyniadau diweddaraf, gwylio fideos o'r enillwyr, dilyn map o'r maes a chreu amserlen bersonol i drefnu eich dydd.

Ac yn dilyn llwyddiant ysgubol yr app yn yr ŵyl y llynedd fe aeth yr Urdd ac S4C ati i'w diweddaru ar gyfer 2014.

Yn newydd eleni gallwch:

• Rannu canlyniadau drwy Facebook a Twitter

• Ychwanegu gweithgareddau i galendr eich dyfais

• Lawr lwytho app arall yr Urdd - Fy Ardal

• Dilyn y rhagolygon drwy App Tywydd S4C

Lawr lwythwch yr app nawr - yn rhad ac am ddim - o'r App Store ar gyfer iPod, iPhone ac iPad, neu Google Play ar gyfer Android.

Ariannwyd App yr Urdd gan S4C ac fe gydweithiodd yr Urdd gyda chwmni Moilin o Lanelli i'w datblygu.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C: "Rydym yn falch iawn o gydweithio â'r Urdd, nid yn unig fel partner darlledu, ond hefyd drwy ddatblygu llwyfannau digidol, sy'n cael eu cefnogi gan S4C. Trwy’r app yma, mae modd i'r gynulleidfa fwynhau arlwy Eisteddfod yr Urdd lle bynnag y maent."

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: “Rwy’n falch iawn fod gennym yr app fel adnodd i’r ymwelwyr ac i bobl fwynhau'r Eisteddfod ble bynnag y maent. Rydym yn gobeithio’n fawr bydd yr app yn adnodd i bawb gael ategu at eu mwynhad o’r ŵyl yn y Bala”

Y llynedd, cafodd App yr Urdd ei ddefnyddio gan dros 13,000 o bobl, ac fe wnaeth 95% o’r defnyddwyr roi sgôr o 4 seren allan o 5 i’r app.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?