S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiadau i Ludus yng ngwobrau Broadcast

29 Mai 2014

 Mae un o raglenni arloesol S4C ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc, Ludus, wedi ei henwebu am dair gwobr yng ngwobrau digidol y cylchgrawn Broadcast.

Mae gwobrau Broadcast yn cydnabod cynnwys ac arloesedd digidol – ac mae’r enwebiadau yn gydnabyddiaeth o ddyfeisgarwch technegol un o raglenni gwasanaeth plant a phobl ifanc S4C, Stwnsh. Bydd y gwobrau’n digwydd 25 Mehefin.

Cafodd Ludus ei henwebu mewn tri chategori, sef gwobr y prosiect aml blatfform orau, cynnwys digidol orau i blant a’r gêm orau.

Cynhyrchwyd Ludus gan gwmni Cube, sy’n arbenigo mewn cynyrchiadau digidol, ar y cyd gyda chwmni cynhyrchu Boom Plant yng Nghaerdydd.

Rhaglen ar ffurf gêm ryngweithiol i blant yw Ludus. Caiff blant gyfle i gymryd rhan yn y stiwdio neu gystadlu am wobrau arbennig wrth chwarae'n fyw gartre gan ddefnyddio ail-sgrin.

Mae Ludus yn cael ei darlledu ar S4C bob nos Lun am 5:20, a hefyd ar CBBC ar rwydwaith y BBC.

Mae fformat ail sgrin Ludus yn deillio o gynhyrchiad Cube ar gyfer S4C, Y Lifft. Mae Ludus yn ddatblygiad o’r Lifft, sef gêm ail-sgrin gyntaf i blant ym Mhrydain ddarlledwyd gyntaf yn 2012.

Dyma ddegfed flwyddyn gwobrau Broadcast ac mae Wil Stephens, Prif Weithredwr, Cube yn teimlo’n falch am yr enwebiad, a hefyd yn ddiolchgar i S4C am gymorth i ddatblygu Ludus;

“Rydyn ni’n hynod falch o'n henwebiadau yng ngwobrau Broadcast. Roedd Ludus yn brosiect uchelgeisiol tu hwnt ac mae wedi gosod safon gwbl newydd ar gyfer cynyrchiadau rhyngweithiol o hyn ymlaen. Mae'r enwebiadau yma yn dangos yn glir fod ymrwymiad S4C i ddatblygiadau digidol arloesol yn dwyn ffrwyth, ac yn llwyddo i gydio dychymyg cynulleidfa newydd”.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?