S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i Gyfri gyda Cyw ar app newydd

02 Mehefin 2014

Yn dilyn llwyddiant app Cyw a’r Wyddor y llynedd mae app addysgiadol newydd wedi ei lansio gan S4C.

Mae app Cyfri gyda Cyw yn app newydd sbon ar gyfer gwylwyr ifanc y Sianel (0-6 oed). Y syniad yw i gyflwyno rhifau mewn modd lliwgar a hwyliog, a bydd ar gael i’w lawrlwytho o 26 Mai ymlaen.

Wrth fynd ar daith mewn bws gyda Cyw a'i ffrindiau rydyn ni'n dysgu cyfri o un i ddeg, yn dysgu sut i ffurfio’r rhif ac yn dysgu cân newydd, Cyfri gyda Cyw.

 Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C;

“Mae’n bleser cael cyhoeddi App Cyfri Cyw sydd wedi ei lansio. Dyma’r ail mewn cyfres o appiau sy’n helpu plant i ddysgu wrth gael hwyl. Mae app Cyw a’r Wyddor eisoes yn hynod o boblogaidd gyda’r gynulleidfa a’r gobaith yw y bydd plant wrth eu boddau gyda App Cyfri Cyw yn chwarae gemau, cyfri a dysgu rhifo. “

Datblygwyd yr app ar y cyd rhwng Boom Plant a Cube Interactive ar gyfer S4C a dywed , Helen Davies y cynhyrchydd ei bod yn edrych mlaen yn fawr i weld cynulleidfa Cyw yn defnyddio’r app i gyfri;

"Yn dilyn llwyddiant app Cyw a'r Wyddor mae’n bleser cynhyrchu app sy'n cyflwyno rhifyddeg i wylwyr Cyw ac yn braf gallu creu adnodd sy’n ddefnyddiol i rieni ac i ysgolion.“

Mae’r app ar gael i'w lawr lwytho yn rhad ac am ddim o'r App Store ar ffôn glyfar neu dabled. Yno hefyd mae modd lawr lwytho rhagor o appiau S4C, gan gynnwys e-lyfrau a gemau.

Nodiadau:

Mae app Cyfri gyda Cyw ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer iPhone, iPad, iPod, Android.

Datblygwyd yr app gan Boom Plant a Cube Interactive ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?