S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Clasuron a'r 'Tour': sylw cynhwysfawr i seiclo gorau'r byd ar S4C

03 Mehefin 2014

  Bydd seiclo gorau'r byd i'w weld ar S4C, wrth i'r sianel gyhoeddi amserlen ddarlledu rhai o rasus enwocaf a mwyaf heriol y calendr cystadlu – yn cynnwys cyfres y Clasuron a'r enwog Le Tour de France.

Gydol mis Mehefin, S4C yw'r unig sianel daearol ym Mhrydain i gynnig uchafbwyntiau rhai o rasus y Clasuron am ddim.

Ras y Paris i Roubaix yw'r gyntaf dan sylw yn y rhaglen Seiclo ar nos Iau 5 Mehefin (S4C, 10.00). Rhodri Gomer Davies sy'n cyflwyno a sylwebaeth gan Wyn Gruffydd, gan roi sylw arbennig i'r diddordeb Cymreig, gyda'r seiclwr Geraint Thomas ymhlith y ceffylau blaen.

Yn dilyn hynny, bob nos Iau, bydd sylw i rasus La Flèche Wallonne (12 Mehefin); Liège i Bastogne i Liège (19 Mehefin); a'r Criterium du Dauphine (26 Mehefin).

Bydd hynny yn ein harwain yn daclus at ddechrau'r Tour de France ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf.

Ar bob diwrnod o'r Tour, bydd S4C yn ymuno â'r beicwyr ar y lôn yn fyw ar gyfer dwy awr ola'r cymal. Wyn Gruffydd fydd yn darparu'r sylwebaeth ac yn dod â'r newyddion diweddaraf wrth i'r cyffro gynyddu a'r ras nesáu at ei therfyn.

Yna gyda'r nos, bydd Rhodri Gomer Davies yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau cynhwysfawr o holl ddigwyddiadau'r cymal. Bydd Rhodri hefyd yn ymuno â'r timau ar y lon wrth iddyn nhw daclo'r cymalau Prydeinig.

Eleni, mae'r Tour de France yn dechrau ar dir Prydain, gyda thri chymal dros dridiau yn dechrau yn ninas Leeds ac yn gorffen ar y Mall yn Llundain ar 7 Gorffennaf. Bydd yna'n dychwelyd i Ffrainc ac yn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis dair wythnos yn ddiweddarach, Sul 27 Gorffennaf.

Un o'r rhai fydd â sylw'r byd wedi ei hoelio arno yw'r hyfforddwr byd enwog Dave Brailsford, Cymro Cymraeg a fagwyd yn Neiniolen, Eryri, ac arweinydd Team Sky, enillwyr y Tour de France am y ddwy flynedd diwethaf. Arweiniad y dyn a dreuliodd flynyddoedd yn seiclo yn Eryri a chwarae pêl-droed i dîm Llanrug, a fu yn bennaf gyfrifol am hyn.

Mae Dave Brailsford yn croesawu'r cynnydd mewn diddordeb yn y gamp a'r ffaith fod S4C am ddarlledu ras fwyaf y byd bob dydd yn fyw.

"Mae'n newyddion gwych bod S4C yn mynd i ddangos y Tour De France," meddai Dave Brailsford.

"Dwi'n credu y galla' i dystio, fel pennaeth tîm Sky sydd wedi ennill y ras ddwywaith, fod y Tour de France yn ddigwyddiad rhyngwladol, ac yn o'r digwyddiadau rhyngwladol blynyddol mwyaf ym myd chwaraeon. Ac felly, mae gweld y ras ar S4C yn beth gwych a dwi'n gobeithio y bydd yn dod a chynulleidfa newydd o Gymru ac yn annog mwy o Gymry i gymryd rhan yn y gamp."

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Ffeithiol a Chwaraeon S4C, "Mae seiclo yn gamp sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd yn aruthrol yn y blynyddoedd diweddar, gydag enwau'r seiclwyr a'r rasus yn dod yn fwy adnabyddus i bawb. Mae llwyddiant tîm Sky a thîm GB wedi codi'r proffil, ac yn ateb i hynny rydym yn falch o allu dod â sylw i nid yn unig i'r rasys Clasuron, sydd o bwys mawr i'r seiclwyr a'u timau, ond hefyd y ras enwocaf un, Le Tour de France, sy'n adnabyddus y tu hwnt i gylchoedd cefnogwyr seiclo hefyd."

Diwedd

Y Clasuron

Paris i Roubaix, nos Iau 5 Mehefin 10.00

La Flèche Wallonne, nos Iau 12 Mehefin 10.00

Liege i Bastogne, nos Iau 19 Mehefin 10.00

Criterium du Dauphine, nos Iau 12 Mehefin 10.00

Le Tour de France

5–27 Gorffennaf

Yn fyw yn y prynhawn ac uchafbwyntiau gyda'r nos

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?