S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hwb i gwmniau cynhyrchu Cymru gyda chynllun Sbardun

12 Mehefin 2014

- Cynllun newydd i gefnogi ymdrechion Cynhyrchwyr yn rhyngwladol.

Mae Rights TV, S4C Masnachol, Llywodraeth Cymru a Creative Skillset Cymru wedi uno eu harbenigedd i lansio Sbardun – cynllun sydd yn cynnig cymorth ymarferol a chyllid i gefnogi ymdrechion cwmnïau annibynnol yng Nghymru sydd yn anelu i sicrhau cytundebau rhyngwladol yn y maes ffeithiol.

Ffocws y cynllun yw darparu cymorth ymarferol i’r Cwmnïau sydd yn mynychu’r marchnadoedd mawr rhyngwladol megis MIPCOM, MIPTV a Realscreen.

Darparwyr y cynllun yw Rights TV a daw’r gefnogaeth ariannol gan S4C Masnachol, Llywodraeth Cymru a Creative Skillset Cymru trwy gynllun Sgiliau ar gyfer yr Economi Digidol.

Mae’r cyllid yn galluogi’r cwmnïau i gyflogi arbenigwyr profiadol i ddatblygu syniadau masnachol ar gyfer eu cynnig i ddarlledwyr a phrynwyr rhyngwladol.

Nodweddion amlwg eraill y cynllun yw cyngor cyfreithiol arbenigol gan Rights TV a chyngor ac arweiniad cyfrinachol gan asiant rhyngwladol o’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Sïon Hughes, Uwch Reolwr Materion Busnes, Rights TV, “Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi ymdrechion rhyngwladol y cwmnïau drwy’r cynllun hwn. Mae’r cynllun wedi cael ei lunio er mwyn cefnogi ymdrechion strategol y cwmnïau i ennill cytundebau rhyngwladol a hybu’r economi.”

Yn ôl Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C: “Rydym yn falch iawn i fod yn bartner yn y fenter. Ein gobaith yw y bydd y cynllun yn gymorth i gwmnïau o Gymru yn eu hymdrechion i sicrhau gwaith rhyngwladol yn ogystal ag arwain at gyfleoedd cyd-gynhyrchu i S4C.”

Yn ôl Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Bwriad y Cynllun yw cynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar cyfleoedd i gyd-gynhyrchu ac i fentro i farchnadoedd newydd rhyngwladol. Mae’r sector greadigol yn bwysig iawn i’r economi yng Nghymru a thrwy gynlluniau fel hyn rydym yn gobeithio gweld tyfiant yn y sector a chynnydd mewn swyddi.”

Rights TV fydd yn gweinyddu’r ceisiadau. Cynigir deg grant ym mlwyddyn gyntaf y cynllun. Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o blith yr arianwyr fydd yn asesu’r ceisiadau. Bydd hyd at £7,000 ar gyfer pob cais gyda 75% yn cael ei gyfrannu gan S4C Masnachol, Llywodraeth Cymru a Creative Skillset Cymru, bydd yr ymgeisydd yn cyfrannu’r 25% olaf.

I dderbyn ffurflen gais a chanllawiau cysylltwch â sion@rights.tv neu ewch i www.compactmediagroup.com

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?