S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ysbrydoli ac arloesi yn Wythnos Arloesi Digidol Cymru

13 Mehefin 2014

  Ysbrydoli ac arloesi yw nod Wythnos Arloesi Digidol Cymru ac ymhlith y siaradwyr gwadd eleni mae nifer o arbenigwyr byd eang sy'n arwain eu maes.

Yn eu plith mae Dave Coplin, Prif Swyddog Dylunio Microsoft UK, Andy Littledale, Cyfarwyddwr Dadansoddi'r Cyfryngau Twitter UK; Paula Le Dieu o gwmni Mozilla; ac Dr René Tristan Lydiksen Prif Weithredwr LEGO Education Europe.

Mae Wythnos Arloesi Digidol Cymru yn cael ei chynnal ar 7-11 Gorffennaf, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Y bwriad yw trafod a rhannu syniadau er mwyn annog datblygiad digidol mewn meysydd gwahanol: gemau, addysg, economi a syniadau creadigol i annog mwy o bobl i fod yn rhan o'r byd digidol yng Nghymru.

Fe drefnir y digwyddiadau gan nifer o bartneriaid yn y sector greadigol a digidol yng Nghymru: S4C, BBC Cymru Wales, BBC Academy, Cyngor Caerdydd gyda BAFTA Cymru, Llywodraeth Cymru, Nesta, Creative Skillset Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, Academi Cyfryngau Cymru, Creative Exchange Wales Network, Games Wales Group, Big Learning Company, Canolfan Mileniwm Cymru.

Rhaid cofrestru cyn mynychu'r holl sesiynau, ac mae manylion am sut i wneud hynny ar gael ar wefan www.diwwales.co.uk a thrwy ddilyn @WADCymru

Ar y wefan hefyd mae mwy o wybodaeth am y sesiynau, gyda maes gwahanol dan sylw bob dydd:

Llun 7 Gorffennaf – Cynulleidfaoedd Digidol

Bydd y canolbwynt yn bennaf ar natur gyfnewidiol cynulleidfaoedd a rôl data (mawr/agored) wrth nodi, deall a chreu profiadau newydd.

Mawrth 8 Gorffennaf – Creadigrwydd & Digidol

Canolbwyntio ar yr offer a'r technegau creadigol newydd sy'n agor cyfleoedd i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Mercher 9 Gorffennaf – Addysg Ddigidol

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol: Annog athrawon yng Nghymru i amlygu'r dulliau dysgu digidol arloesol sy'n digwydd mewn dosbarthiadau ar hyd a lled Cymru.

Creative Exchange Wales Network: Diwrnod ar gyfer y diwydiant ac academyddion sy'n ymchwilio sut mae prosesau creadigol yn gallu bod o gymorth i arloesi a chryfhau busnes.

Dosbarth Digidol y Dyfodol – Sut fydd y dosbarth yn edrych yn 2017 a sut gallwch chi fod yn rhan o’r newid? Ymhlith y siaradwyr gwadd mae Dr René Tristan Lydiksen Prif weithredwr LEGO Education Europe.

Iau 10 Gorffennaf - Economi Digidol

Cyfleoedd digidol ym myd busnes mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

Gwener 11 Gorffennaf – Sioe Datblygiad Gemau Cymru

Arddangosfeydd, cyflwyniadau, gweithdai, dosbarthiadau meistri a sesiynau cynghori unigol, ac i gloi'r cyfan, Gwobrau Gemau BAFTA Cymru - gyda chefnogaeth Creative Europe a Llywodraeth Cymru.

Ewch i www.diwwales.co.uk am ragor o wybodaeth a dilynwch @WADCymru am y diweddaraf cyn ac yn ystod y digwyddiad.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?