S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Emyr Byron Hughes

03 Gorffennaf 2014

Mae Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd Awdurdod y sianel wedi talu teyrnged i Emyr Byron Hughes, a fu farw’n ddiweddar.

Roedd yn gyn Gyfarwyddwr Polisi Corfforaethol S4C a chyn Ysgrifennydd yr Awdurdod ac yn aelod o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd y sianel yn 1982.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones:

“Roedd Emyr yn ŵr o allu arbennig iawn. Roedd yn gallu gweld posibiliadau a chysylltiadau lle'r oedd eraill yn gweld tywyllwch, ac roedd ei athrylith yn gyfrifol am weld cyfleoedd i S4C lwyddo mewn meysydd newydd, megis hysbysebu a mentrau digidol. Roedd yn delio ar delerau cyfartal gydag uwch swyddogion a rheolwyr yn Llundain, ac wrth ei fodd yn gwneud hynny, ond yn gwbl ymroddedig i Gymru a’r Gymraeg, fel y dangosodd hefyd gyda’i waith tawel a diflino dros yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd ei gyngor bob amser yn gyfoethog a gwerthfawr ac fe elwodd S4C yn aruthrol ar ei gyfraniad.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Roedd Emyr yn ddyn hawddgar, dymunol a galluog tu hwnt. Yn bersonol, roedd yn bleser i mi allu dysgu ganddo wrth weithio gydag e yn ystod dyddiau cynnar S4C, ac roedd ei gyfraniad at lwyddiant y sianel yn ystod y cyfnod hwnnw’n gwbl amhrisiadwy. Yn aml iawn mae darlledu’n cael ei weld fel diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan wynebau amlwg - ond yn achos Emyr, doedd e ddim am fod yn wyneb amlwg, roedd yn hapus i eraill dderbyn y clod gan wybod mai darlledu Cymraeg oedd yn elwa. Mae colled enfawr ar ei ôl.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?