S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mae'n wir bob gair! Mae tair gwlad Geltaidd yn cyd-weithio ar gyfres gwis i S4C

02 Hydref 2014

Yn rhan o bartneriaeth cyd-gynhyrchu newydd mae cwmnïau o'r Alban ag Iwerddon yn cyd-weithio gyda chwmni o Gymru er mwyn creu cyfres gwis newydd ar gyfer S4C.

Mae Cwmni Da, sydd â'i swyddfeydd yng Nghaernarfon, yn gweithio gyda TV3 yn Iwerddon a'r cwmni cynhyrchu STV Productions yn Yr Alban i gynhyrchu'r cwis o'r enw Celwydd Noeth i'w darlledu ar S4C yn 2015.

Mae'r fformat ar gyfer y sioe gwis, sy'n eiddo i TV3, STV a GroupM, hefyd wedi denu sylw darlledwyr eraill yn y DU a'r UDA.

Meddai Aled Davies, cynhyrchydd o Cwmni Da, "Dyma gydweithrediad Celtaidd sy'n gweithio i'r dim. Rydym yn manteisio ar fformat gwis adloniant sy'n gweithio i Iwerddon, Yr Alban a hefyd i ni yma yng Nghymru. Mae Celwydd Noeth yn cynnwys cymeriadau bywiog ac mae arian mawr ar gael i'w ennill. Mae'n gyfle i'r cystadleuwyr fwynhau'r profiad a'r gwylwyr i fwynhau'r tensiwn!"

Mae STV ac TV3 ill dau eisoes wedi darlledu un gyfres o'r cwis, gyda theitl The Lie, sydd wedi cael derbyniad gwresog gan eu gwylwyr. Yn Yr Alban, y comedïwr adnabyddus Susan Calman sy'n cyflwyno, a Jonathan McCrea sy'n cyflwyno'r gyfres Wyddelig.

Wrth y llyw yn y gyfres Gymraeg, fodd bynnag, bydd y cyflwynydd o Sir Fôn, Nia Roberts – darlledwr profiadol a dwylo diogel i ofalu a rhannu'r jacpot posib o £10,000 sydd i'w hennill.

Mae Celwydd Noeth yn fath gwahanol o gwis ble nad oes angen ateb yr un cwestiwn. Ym mhob rownd, bydd y cystadleuwyr yn derbyn rhestr o ffeithiau, ac yn eu plith bydd un sy'n gelwydd. Drwy weithio mewn parau, bydd rhaid iddynt ddewis pa un o'r ffeithiau sy'n anghywir er mwyn ennill arian i'w pot a symud ymlaen i'r rownd nesaf.

Dim ond drwy lwyddo i ddyfalu pob celwydd yn gywir, a chyrraedd y rownd olaf ar ben y daith, y gallan nhw hawlio'r jacpot o £10,000.

Bu Cwmni Da yn recordio'r gyfres ar gyfer S4C ar ddiwedd mis Medi, gyda llu o gystadleuwyr brwd a bywiog yn cymryd rhan. Yn ystod mis Medi hefyd, bu STV Productions a TV3 yn recordio ail gyfres ar gyfer eu gwylwyr nhw.

Meddai Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, fod y cynnig i gyd-weithio ar y rhaglen newydd yn gyfle na ellid ei gwrthod;

"Dyma gwis cynhyrfus a gafaelgar fydd yn cadw'r gwylwyr, a'r cystadleuwyr, ar bigau'r drain. Mi fydd yn denu pob math o bobl, ac yn gyfres y gall y teulu i gyd fwynhau. Roedd y fformat yma yn benodol yn apelio am ei bod yn cynnig ongl newydd a ffres, a digon o sgôp i roi hunaniaeth Gymreig iddi. Roedden ni'n falch iawn o'r cyfle i gyd-weithio â STV Productions, TV3 a Cwmni Da, ac yn gobeithio nad dyma'r tro olaf y gallwn ni ffurfio partneriaeth fel hyn."

Dywedodd Alan Clements, Cyfarwyddwr Cynnwys STV Productions, "Roedd yn brofiad cyffroes bod yn ôl yn y stiwdio gyda'n cyflwynwyr a'n cystadleuwyr, a chael cyflwyno'r fformat arloesol hwn i gynulleidfa oriau brig S4C am y tro cyntaf, a dychwelyd i STV ac TV3 am ail gyfres. Mae ail gyfres The Lie yn cryfhau safle STV Productions ymhellach ymhlith darparwyr yn y genre adloniant, sydd ar hyn o bryd hefyd yn cynnwys comisiwn arall gan ITV ar gyfer Catchphrase a The Link ar gyfer BBC."

Dywedodd Andrew Byrne, Pennaeth Grŵp ar gyfer Fformat a Datblygu TV3, "The Lie oedd menter cyd-gynhyrchu gyntaf TV3 a'r tro cyntaf i ni fentro i faes sioeau gêm adloniannol. Mae'n galonogol gweld faint sydd wedi digwydd mewn blwyddyn, gyda chomisiynau'n dod o'r Alban a Chymru a diddordeb hefyd gan gwmnïau yn Ffrainc a'r DU yn ogystal â'r UDA. Bu'n bleser gweithio gyda'n partneriaid STV Productions a GroupM ar y fformat ac rydym yn falch o groesawu S4C a Cwmni Da i stiwdio Sony HD TV3 i greu'r fersiwn Gymraeg, Celwydd Noeth."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?