S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiadau i S4C yng ngwobrau Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol

27 Hydref 2014

 Mae S4C wedi derbyn tri enwebiad yng ngwobrau CDN, Gwobrau Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol sydd yn cydnabod rhaglenni sy'n portreadu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C wedi derbyn enwebiad am Gydnabyddiaeth Arbennig ar gyfer Comisiynu, ac mae’r rhaglen ddogfen ddirdynnol Fy Chwaer a Fi wedi ei henwebu am y Gynrychiolaeth Orau o Anabledd ar y sgrin. Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi fod rhaglen Fy Chwaer a Fi wedi ei henwebu am y Wobr Torri Tir Newydd CDN, mae tanysgrifwyr y cylchgrawn Broadcast wedi bod yn pleidleisio am enillydd y categori hwn,

Dywed Catrin Hughes Roberts, Pennaeth Partneriaethau; ‘Rydym yn hynod o falch bod Fy Chwaer a Fi a Llion, am ei waith fel Comisiynydd, wedi eu henwebu am wobrau CDN.

‘Mae'r enwebiadau yn gydnabyddiaeth o nod S4C o gynnig gwasanaeth a rhaglenni sy’n cynrychioli, ac yn apelio at, bawb. Maent yn deyrnged i waith sensitif a graenus y cwmniau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, sydd yn rhoi llwyfan amlwg i storiau teilwng. Mae’r enwebiadau hefyd yn gydnabyddiaeth ym mharodrwydd teuluoedd i agor eu drysau i’r camerau, a rhannu eu bywydau gyda’r gynulleuidfa, ac rydym yn diolch yn fawr iddynt am eu parodrwydd i wneud hyn.’

Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn seremoni yn Llundain 11 Tachwedd.

Cynhyrchwyd Fy Chwaer a Fi , gan Bulb Films, sydd yn rhan o Gwmni Boom Pictures ar ran S4C. Mae'r rhaglen afaelgar hon yn sôn am hanes Kirstie a Catherine Fields, efeilliaid 18 oed o Lanelli, a'r unig bobl yn y byd sydd â'r cyflwr 'Fields Condition'. Mae'r afiechyd wedi ei enwi ar eu hôl nhw.

Oherwydd y cyflwr creulon hwn maen nhw bellach yn dibynnu ar gadeiriau olwyn ac wedi eu gadael yn fud. Yn cyfathrebu trwy gyfrwng peiriannau llefaru electronig am y tro cyntaf, mae’r rhaglen yn adrodd eu stori ddirdynnol yn eu geiriau didwyll eu hunain.

Nodiadau

Mae Fy Chwaer a Fi eisioes wedi ennill y gwobrau canlynol:

Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2013:/ Human Concerns (World Gold Medal)

BAFTA Cymru 2013: Gwobr Cyfarwyddwr Ffeithiol Fy Chwaer a Fi i Mei Williams

Mae Fy Chwaer a Fi hefyd wedi derbyn enwebiad gan yr isod:

Royal Television Society Programme Awards 2012: Dogfen Sengl / Single Documentary

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?