S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr CDN i raglen ddogfen am ddwy efaill arbennig o Lanelli

18 Tachwedd 2014

Mae rhaglen ddogfen S4C am ddwy efaill ddewr o Gymru wedi ennill gwobr am y Portread Gorau o Anabledd ar Sgrin yng ngwobrau'r Creative Diversity Network (CDN).

Mae'r ddogfen Fy Chwaer a Fi yn adrodd hanes yr efeilliaid Catherine a Kirsty Fields, 18 oed, o ardal Llanelli, sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol prin sy'n effeithio ar eu cyhyrau a'u gallu i siarad.

Yn y rhaglen ddogfen hon, a gafodd ei chynhyrchu gan Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru a’i darlledu yn 2012, roedd y ddwy’n dweud eu stori am y tro cyntaf, gan ddefnyddio dyfeisiadau cyfathrebu electronig arloesol.

Yn ogystal â'r wobr CDN, mae'r rhaglen eisoes wedi derbyn sawl anrhydedd gan gynnwys gwobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a'r New York Festivals Awards.

Dywedodd Comisiynydd Ffeithiol S4C, Llion Iwan, "Rydym yn hynod falch o’r wobr, sy’n cydnabod stori a oedd yn fodd i agor y drws ar salwch sy’n wynebu unigolion a’u teuluoedd yn ddistaw bach tu nôl i ddrysau caeedig."

Dywedodd cyfarwyddwr Fy Chwaer a Fi Mei Williams, "Roedd hi'n anrhydedd fawr derbyn y wobr hon ar ran Kirstie a Catherine Fields. Bwriad y rhaglen oedd codi ymwybyddiaeth am fywydau pobl anabl, ac mae'r ffilm yn sicr wedi llwyddo i wneud hynny ledled y byd bellach. Mewn oes lle mae rhaglenni masnachol eu naws yn dominyddu'r tonfeddi mae'n achos balchder i ni yng Nghymru bod S4C yn ddarlledwr sy'n gwerthfawrogi bod angen adrodd straeon sydd o werth gwirioneddol i'r gynulleidfa."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?