S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen materion cyfoes Hacio yn rhoi llais i Gymry ifanc

20 Tachwedd 2014

Mae rhaglen materion cyfoes S4C Hacio wedi lansio prosiect digidol newydd - gyda chymorth myfyrwyr ar draws Cymru.

Mae Hacio, rhaglen ar gyfer pobl ifanc Hacio wedi gweithio'n agos gyda thair ysgol uwchradd i lansio gwefan newydd ar gyfer S4C, ble gall pobl ifanc ysgrifennu am faterion sydd o bwys iddyn nhw.

Bu Ysgol y Strade, Llanelli, Ysgol Glantaf, Caerdydd ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn rhan o brosiect i greu gwefan newydd ar gyfer pobl ifanc, sy'n cynnwys fideos, blogs a defnyddio dulliau gwahanol o gyfryngau cymdeithasol i ddweud eu dweud.

Mae'r cynllun wedi ei lansio yn ystod tymor Dyma Fi, bwriad S4C yw rhoi llais i bobl ifanc i gyd-fynd â Diwrnod Byd-eang y Plant sy'n digwydd heddiw (Dydd Iau, 20 Tachwedd).

Mae hefyd yn cyd-fynd gyda rhifyn arbennig o raglen Hacio, heno am 20:00, pan fydd pobl ifanc yn lleisio eu barn yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae newyddiadurwr Hacio, Martha Holeyman wedi bod yn cydweithio gyda nifer o fyfyrwyr chweched dosbarth gan eu hannog i ysgrifennu.

Mae’r prosiect yn rhan o bartneriaeth rhwng S4C, ITV Cymru Wales sy’n cynhyrchu Hacio a Choleg Newyddiadurol Prifysgol Caerdydd, mewn ymgais i ddatblygu cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr, a datblygu sgiliau ysgrifennu a golygu.

Mae'r newyddiadurwyr ifanc wedi bod yn mynychu gweithdai arbennig ar newyddiadura a chreu gwefannau.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Sioned Wyn Roberts; "Drwy gydweithio'n agos gyda'n partneriaid, rydym yn buddsoddi mewn talent ifanc sydd â diddordeb mewn newyddion, barn a materion cyfoes. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hybu cenhedlaeth newydd o Gymry sydd â hyder yn ysgrifennu erthyglau newyddiadurol a mynegi eu barn mewn modd anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg."

Dywed Ifan Jenkins, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol y Strade, Llanelli, “Mae wedi bod yn brofiad a chyfle arbennig i ni fynegi barn mewn cyfnod pan mae nifer yn ein hanwybyddu. Efallai y bydd hyn yn annog pobl i wrando arnom yn y dyfodol."

“Bwriad y prosiect yma yw fy ysgogi i a fy ffrindiau i roi ein barn ar-lein. Mae wedi rhoi profiad i mi weithio ym myd newyddiadura, gan ehangu fy ngwybodaeth, a dysgu mwy mewn modd ymarferol. Rwy'n mwynhau blogio am gemau rygbi, ymysg nifer o sialensiau eraill."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?