S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ar BBC iPlayer

04 Rhagfyr 2014

O'r 4ydd o Ragfyr bydd rhaglenni'r sianel deledu Gymraeg S4C ar gael yn fyw ac ar alw ar BBC iPlayer.

Bydd S4C yn ymddangos ymhlith y rhestr o brif sianeli BBC iPlayer, gyda'r rhaglenni ar gael i'w gwylio am 30 diwrnod, a bydd y gwasanaeth lawr lwytho yn dilyn yn fuan. Ymhlith y rhaglenni y gall gwylwyr eu mwynhau drwy'r gwasanaeth fydd y gyfres ddrama gomedi newydd Cara Fi, a gallwn hefyd edrych ymlaen at rai o uchafbwyntiau adloniant y Nadolig, yng nghwmni Bryn Terfel ac Only Men Aloud ymhlith eraill. Ac ar Ddydd Calan, bydd dangosiad cyntaf pennod arbennig newydd hir ddisgwyliedig y ddrama dditectif Y Gwyll / Hinterland.

Mae cynnwys S4C ar BBC iPlayer yn adeiladu ar y berthynas rhwng y ddau ddarlledwr, ac yn golygu bod rhaglenni S4C ar gael ar ystod eang o blatfformau. Mae'r rhaglenni yn ychwanegu at y ddarpariaeth Gymraeg sydd eisoes ar gael ar BBC iPlayer, fel Pobol y Cwm sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru Wales. S4C yw'r unig sianel annibynnol fydd ar gael ar BBC iPlayer.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Mae'n wych croesawu S4C i BBC iPlayer. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig sy'n tynnu ynghyd cyfoeth o gynnyrch yn yr iaith Gymraeg gyda'i gilydd am y tro cyntaf mewn un man - yn cynnwys rhaglenni S4C a BBC Radio Cymru - gan ei gwneud hi'n haws nag erioed o'r blaen i'r gynulleidfa ddod o hyd i'r rhaglenni maen nhw'n eu mwynhau. Mae hefyd yn enghraifft amlwg o’r ffordd mae'r bartneriaeth greadigol sy'n bodoli rhwng y ddau’n gwneud gwir wahaniaeth."

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae wedi bod yn wych i weithio mewn partneriaeth â'r BBC er mwyn sicrhau bod cynnwys S4C nawr ar gael ar BBC iPlayer. Mae sicrhau bod cynnwys S4C ar gael unrhyw bryd, unrhyw le ac mewn unrhyw ffordd yn rhan annatod o strategaeth S4C ers dechrau 2012.

"Fel yr unig ddarlledwr annibynnol i gynnig cynnwys ar BBC iPlayer, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i'r cyhoedd weld yr amrywiaeth gwych o raglenni rydyn ni'n eu cynnig. Mae BBC iPlayer yn ychwanegu at y nifer o wasanaethau a phlatfformau sydd eisoes yn cynnig ffyrdd o wylio S4C, ac yn hwb i gynnal y nifer cynyddol o bobl sy'n dewis gwylio ein cynnwys ar-lein."

Nodiadau i Olygyddion

• Lansiwyd BBC iPlayer ym mis Rhagfyr 2007 fel gwefan ar alw syml, ac ers hynny mae wedi helpu i arloesi yn y maes teledu ar alw drwy gynnig cyfleoedd i wylio rhai rhaglenni BBC am hyd at 30 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

• Ers hynny mae BBC iPlayer wedi esblygu, ac wedi ychwanegu at y dewis o raglenni sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys cyfresi llawn, ffilmiau a chynnwys ecsgliwsif, sianel deledu a radio byw. Hefyd y dewis i lawr lwytho er mwyn gwylio pan nad oes modd cysylltu â'r rhyngrwyd a gwasanaethau personol fel y rhestr o ffefrynnau ac awgrymiadau.

• Mae fersiynau o BBC iPlayer wedi ei datblygu ar gyfer 1200 o ffonau symudol, tabledi a setiau teledu sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd. Mae hyn yn caniatáu i'r gynulleidfa wylio'n fyw neu ar alw ble bynnag maen nhw ac ar ba bynnag ddyfais sydd ganddynt, gan gynnig mynediad drwy 3G a Wi-Fi, neu fynediad syml a chyfleus yn defnyddio band llydan ar y teledu yn yr ystafell fyw. Mae cynnwys S4C ar gael yn syth ar lawer o'r dyfeisiadau mwyaf blaenllaw drwy BBC iPlayer, gyda platfformau eraill i ddilyn yn fuan.

• Ers lansio bu dros 10 biliwn o geisiadau ar BBC iPlayer ar gyfer rhaglenni teledu a radio.

• Mae holl raglenni S4C ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ac ar alw'r sianel, S4C Clic.

• Mae gan BBC Cymru Wales a S4C bartneriaeth strategol sy'n diogelu lefelau buddsoddiad yn rhaglenni S4C tan 2016/17. Mae'r cytundeb, sy'n gwarantu isafswm o 520 awr o raglenni i S4C bob blwyddyn gan BBC Cymru Wales yn cynnal buddsoddiad BBC Cymru Wales mewn cynnwys gwreiddiol Cymraeg ar deledu wedi ei greu am ddim ar gyfer S4C. Mae’r ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar amryw o brosiectau creadigol yn cynnwys y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland.

• Mae S4C wedi ei hariannu'n rhannol gan y ffi drwydded, drwy Ymddiriedolaeth y BBC, sy'n cyfrannu £76m i refeniw blynyddol S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?