S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillydd Fferm Ffactor 2014 yn gwahodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i'w fferm

04 Rhagfyr 2014

 

Ffermwr o Langyndeyrn, Sir Gaerfyrddin yw pencampwr Fferm Ffactor 2014.

Roy Edwards, Groesasgwrn sydd wedi hawlio'r teitl eleni a'r wobr fawr o gerbyd pic-yp 4x4 Isuzu D-Max Yukon gydag yswiriant am flwyddyn gan Wasanaethau Yswiriant FUW.

"Doeddwn i ddim yn hollol ffyddiog, ac o'n i wedi paratoi i feddwl mai rhywun arall fyddai'n ennill. Roedd e'n sypreis – ac yn un da!" meddai Roy Edwards, ffermwr llaeth a thad i bedwar o feibion oedd yn ei gefnogi pob cam o'r gystadleuaeth.

"Mae'r plant wrth eu bodd. Bydden i'n dod nôl adre ar ôl gwneud tasg a'r plant ieuengaf yn gofyn 'Dad, wyt ti'n dod nôl â'r Isuzu heddiw?'. Doedden nhw ddim cweit wedi deall! Mae'r mab hynaf yn 13 oed ac mae e wedi bod yn gefn i'w fam i gadw pethe i fynd ar y fferm pan fyddwn i'n mynd i ffilmio Fferm Ffactor. Roedd e hefyd yn rhoi pryd o dafod i fi os nad oeddwn i wedi gwneud y dasg yn iawn, ac roedd hynna yn fy sbarduno i 'mlaen!"

Roedd tri ffermwr yn y rownd derfynol yn brwydro i ennill allweddi'r Isuzu – sef Roy, Gethin Lloyd o Abergorlech a Tudor Roberts-Watkins o Garno. Her olaf y gyfres oedd tywys Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans AC, o amgylch eu ffermydd cyn i'r enillydd gael ei gyhoeddi o flaen cynulleidfa yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

"Allwn i ddim cael gwell cyfle 'na hyn, o'n i'n methu credu'n bod ni wedi cael cyfle i ddangos rhywun sydd mor bwysig ym myd amaethyddiaeth rownd ein busnes a'n ffarm," meddai Roy, a wnaeth dywys y Dirprwy Weinidog o gwmpas ei fferm laeth a rhoi cyfle iddi helpu gyda'r godro.

"Roedd e'n gyfle i ddweud yn gwmws beth sy'n ein poeni ni ar y fferm ar hyn o bryd. Roeddwn i'n teimlo tipyn o bwysau am fy mod i'n cynrychioli pob ffermwr llaeth mewn ffordd. Ro'n i hefyd mo'yn dangos yn syml faint o waith sydd yn mynd mewn i gynhyrchu'r llaeth, a hefyd dangos mai fferm deuluol ydyn ni; mae pawb yn rhan o'r tîm."

Meddai Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, "Roeddwn i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i ymweld â ffermydd y tri chystadleuydd terfynol yn Fferm Ffactor eleni ac roedd gen i ddiddordeb mawr i weld beth mae ffermio yn ei olygu iddyn nhw a'u teuluoedd a sgwrsio am eu gobeithion a'u pryderon am y dyfodol. Fe wnaeth eu hangerdd tuag at eu gwaith a'u cynnyrch argraff fawr arna i, ac rwy'n falch nad fi oedd yn gorfod dewis enillydd o blith y tri!"

Roedd beirniaid y gyfres - y ffermwr Aled Rees a'r Athro Wyn Jones - yn falch iawn o'r tri ffermwr yn y dasg olaf. Fe gyflwynwyd darlun o dair fferm wahanol i'r Dirprwy Weinidog - fferm laeth gyda Roy, fferm fynydd gyda Tudor yng Ngharno, a fferm wartheg Gethin Lloyd yn Abergorlech, ac un o'i siediau yn wag wedi iddyn nhw orfod difa gwartheg a'u lloi oherwydd mesurau profi am y diciâu.

"Fel amaethwr fy hunan, roeddwn i'n browd iawn ohonyn nhw ac yn meddwl eu bod nhw i gyd wedi gwneud jobyn da," meddai Aled Rees, ffermwr llaeth o Aberteifi ac enillydd cyfres gyntaf Fferm Ffactor yn 2009.

"Yn eu gwahanol ffyrdd fe wnaethon nhw roi darlun da i'r Dirprwy Weinidog o'r diwydiant amaeth yng Nghymru a'r problemau maen nhw'n eu hwynebu. Fe welodd y Dirprwy Weinidog amrywiaeth y gwaith, ac yn fwy na hynny fe gafodd hi flas ar fywyd teulu a gweithgarwch pawb ar y fferm. Cafodd hi weld realiti'r bywyd, y drwg yn ogystal â'r da."

Bydd pennod ola'r gyfres yn cael ei dangos eto ar S4C ar brynhawn Sadwrn 13 Rhagfyr am 1.00 neu gallwch wylio eto ar-lein ac ar alw ar S4C Clic.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?