S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darlledu rhaglen fel teyrnged i ‘Sbardun’

16 Rhagfyr 2014

 Fe fydd S4C yn darlledu rhaglen am y grŵp pop eiconig, y Tebot Piws yn deyrnged i Alun ‘Sbardun’ Huws fu farw yn gynharach yr wythnos hon.

Ac wrth wneud y cyhoeddiad, fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C bod Cymru wedi colli gŵr a fu’n gawr yn y byd adloniant a theledu yng Nghymru dros y pum degawd diwethaf.

Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp pop wnaeth gymaint o argraff ar y byd cerddorol Cymraeg yn y 1960u a 1970au. Bu’r gŵr o Benrhyndeudraeth, Gwynedd hefyd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm.

Fe fydd S4C yn darlledu’r rhaglen Gwreiddiau Roc: Y Tebot Piws nos Iau, 18 Rhagfyr 9.30, a fydd yn gyfle i ail fwynhau rhaglen o 2011 ar sut y daeth Dewi Pws, Emyr Huws Jones, Alun 'Sbardun' Huws a Stan Morgan-Jones at ei gilydd a dod ag ysbryd ffres i ganu’n Gymraeg.

Ac fe wnaeth y rhaglen gylchgrawn Heno, ar nos Fawrth 16 Rhagfyr 7.00, hefyd dalu teyrnged i’r cerddor â’i gyfraniad i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn angerddol am bob dim yr oedd yn ei wneud fel cynhyrchydd, cyfarwyddwyr ac fel cyfansoddwr a cherddor. Yn bersonol, des i nabod ‘Sbardun’ yn dda pan ddechreuais fy ngyrfa yn y byd teledu gyda HTV Cymru ar ddechrau’r 1980au, ac roedd ei greadigrwydd, proffesiynoldeb a haelioni calon yn ysbrydoliaeth fel ymchwilydd a chynhyrchydd ifanc.

“Wrth gydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau, hoffwn ddweud y bydd ei gyfraniad amhrisiadwy i’n diwylliant poblogaidd yn parhau i’w gweld a’u clywed yn y doreth o raglenni a chaneuon a helpodd eu cynhyrchu.”

diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?