S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi Golygydd Chwaraeon S4C

19 Rhagfyr 2014

Mae S4C wedi cyhoeddi penodiad newydd i swydd Golygydd Chwaraeon S4C.

Bydd Sue Butler yn ymuno â S4C i ofalu am holl gynnwys chwaraeon y sianel; denu a negydu hawliau darlledu ar gyfer amrywiaeth o gampau ac arwain y strategaeth cynnwys chwaraeon.

Fe fydd yn dechrau ei swydd yn S4C ar 12 Ionawr 2015.

Wedi’i magu yn yr Wyddgrug a bellach yn byw yn Sir Fynwy, mae Sue Butler yn gynhyrchydd rhaglenni profiadol ac wedi gweithio ar ddarllediadau o rai o brif ddigwyddiadau'r byd chwaraeon. Mae’r rhain yn cynnwys pum Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad, Rowndiau Terfynol Cwpan yr FA, twrnamaint tennis Wimbledon, Cwpan Ryder, y Grand National a thwrnamaint rygbi'r Chwe Gwlad.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'n bleser cyhoeddi y bydd Sue Butler yn ymuno â'r tîm ac yn dod â phrofiad helaeth yn y maes darlledu chwaraeon gyda hi. Gyda nifer cynyddol o sianeli yn cystadlu am yr hawliau i ddarlledu chwaraeon, mae'r maes yma yn un sy'n dod yn fwy cymhleth a chystadleuol fyth. Gwaith Sue fydd negydu yn y byd heriol hwn a sicrhau amserlen gyffrous o chwaraeon amrywiol i wylwyr S4C."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?