S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nid tedi cyffredin mohono – Gwyliwch SuperTed dros y 'Dolig

19 Rhagfyr 2014

Bydd modd i wylwyr S4C ail fwynhau rhaglenni cartŵn fel SuperTed a Wil Cwac Cwac wrth i S4C lansio CywTiwb dros gyfnod y Nadolig.

Bydd SuperTed a Wil Cwac Cwac yn dychwelyd i'r Sianel ddydd Sul, 28 Rhagfyr a ddydd Sul 4 Ionawr.

Mae SuperTed yn dipyn o ffefryn i blant yr wythegau a'r nawdegau, ac eleni bydd cenhedlaeth newydd o blant yn gallu mwynhau antur y tedi bêr, a'i gyfaill Smotyn.

Bu’r cymeriadau hyn yn gymorth i S4C sefydlu fel sianel gynhyrfus a deinamig 32 mlynedd yn ôl.

Rhai o'r clasuron animeddiedig eraill ar CywTiwb fydd Joshua Jones, Lisabeth, Sam Tân, Siôn Blewyn Coch, Sgerbyde, Slici a Slac a Miffi.

Bydd pennod Nadoligaidd o Siôn Blewyn Coch i'w gweld ar S4C ar ddydd Sul, 28 Rhagfyr, ble bydd y llwynog bach clyfar yn ceisio dwyn twrci Nadolig y ffermwr.

Mae Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Sioned Wyn Roberts yn hyderus y bydd ansawdd y rhaglenni poblogaidd hyn yn ychwanegu at lwyddiant darpariaeth gwasanaeth S4C ar gyfer plant.

"Mae’n bleser i ni gael croesawu SuperTed, Wil Cwac Cwac, Sgerbydau a llwyth o gartwnau eiconaidd y gorffennol yn ôl ar S4C. Bydd CywTiwb yn gyfle i genhedlaeth newydd o blant fwynhau amryw o gartwnau mwyaf poblogaidd a wnaed yng Nghymru yn y 30 mlynedd diwethaf. Dim ond dwy awr sydd wedi eu hamserlennu ond os ydy Cyw Tiwb yn apelio i’r gynulleidfa, mae digon o benodau eraill yn yr archif!"

Am yr amserlen lawn ewch i wefan S4C, s4c.co.uk.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?