S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prosiect DNA Cymru yn cyrraedd Parc y Scarlets

30 Rhagfyr 2014

Bydd tîm DNA Cymru ym Mharc y Scarlets, Trostre, Llanelli ddydd Sadwrn 3 Ionawr i godi ymwybyddiaeth am y prosiect uchelgeisiol, pellgyrhaeddol a fydd yn darganfod mwy am wreiddiau genetig Cymru.

Bydd stondin DNA Cymru y tu allan i Far Cefnogwyr y stadiwm cyn gêm Scarlets v Gweilch, gêm a fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar raglen Clwb Rygbi ar S4C.

Ydych chi erioed wedi meddwl pwy yw'r Cymry? Ydych chi wedi holi o le yr ydych wedi dod?

Bydd y gyfres newydd DNA Cymru, fydd yn dechrau yn ddiweddarach yn 2015, yn mynd â’r gwylwyr ar daith sy’n cychwyn gyda dechreuadau’r ddynoliaeth yn Affrica ac yna’n datgelu mwy am boblogaeth gynharaf y tir a adwaenir heddiw fel Cymru ac am bobl y Gymru gyfoes.

Yn y gyfres DNA Cymru, bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn esbonio sut y gall gwyddoniaeth DNA ddatgelu mwy am ein hunaniaeth genetig sy'n ymestyn yn ôl y tu hwnt i hanes cofnodedig.

Mae'r prosiect cyffrous hwn yn bartneriaeth rhwng S4C, DNA Cymru Wales, Trinity Mirror - cyhoeddwyr y Western Mail a'r Daily Post - a chwmni cynhyrchu Green Bay Media.

Bydd y prosiect DNA Cymru yn ymgymryd â’r gwaith o brofi DNA teuluol ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen yng Nghymru.

A bydd y stondin DNA Cymru ym Mharc y Scarlets yn esbonio sut mae'r profion DNA teuluol yn gweithio er mwyn i chi olrhain eich etifeddiaeth enetig y tu hwnt i unrhyw gofnod ysgrifenedig er mwyn eich helpu i ddarganfod eich llinach hynafol drwy YDNA (llinach y tad) a mtDNA (llinach y fam).

Bydd cyfle i dri chefnogwr rygbi lwcus i ennill cit profion cyndeidiol DNA yn rhad ac am ddim.

Yn y gyfres, bydd aelodau'r cyhoedd ac enwogion fel Michael Sheen, Bryn Terfel, Iwan Rheon a Sian Lloyd yn cael gwybod am eu gwreiddiau yn y gorffennol pell.

Meddai cynhyrchydd y gyfres Angela Graham o Green Bay Media, "Rydym yn ymgymryd ag arolwg o DNA Cymru ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen a bydd hyn yn bwrw goleuni ar symudiadau poblogaeth yn y gorffennol ac yn ceisio dod o hyd i atebion i rai o’r dirgelion hanesyddol mawr.

"Bydd dau o gyflwynwyr DNA Cymru S4C, Beti George a Dr Anwen Jones, ym Mharc y Scarlets i helpu i egluro sut y gall y DNA teuluol ateb rhai o ddirgelion ein gwreiddiau fel pobl.”

Bydd Green Bay Media yn ffilmio ar gyfer y gyfres ym Mharc y Scarlets fel rhan o brosiect ffilmio a fydd yn tywys gwylwyr i Ddyffryn Hollt yn Tanzania lle ganed y ddynoliaeth ac i'r Llochesau Oes Iâ yn y Pyrenees lle mae bywyd wedi goroesi er gwaetha’r amodau tywydd eithafol.

Am fwy o fanylion ewch i safle’r gyfres, http://www.s4c.co.uk/cymrudnawales/e_index.shtml

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?