S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Opera Cymraeg ar S4C mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru

08 Ebrill 2015

Bydd opera Cymraeg unigryw yn cael ei dangos ar S4C ym mis Ebrill o ganlyniad i bartneriaeth rhwng y sianel, Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a'r cynhyrchwyr teledu Rondo Media.

Bydd cyfle i weld perfformiad llawn Gair ar Gnawd, opera ddiweddaraf WNO, ar S4C ar nos Sadwrn 25 Ebrill 7.30, yn y rhaglen Opera Gair ar Gnawd: Y Perfformiad, wythnos union yn dilyn ei llwyfannu yn Theatr Ffwrnes, Llanelli ar 18 Ebrill.

Yn ogystal, ar nos Fercher 22 Ebrill am 7.30, bydd rhaglen ddogfen S4C Opera Gair ar Gnawd: Tu ôl y Llen yn ein tywys drwy waith creu'r cynhyrchiad; y cantorion, y corws, y cynhyrchu, ac wrth gwrs, y canu.

Mae Gair ar Gnawd yn opera gyfoes am Gymru heddiw, wedi ei hysbrydoli gan hanes cyfieithu'r Beibl. Gyda mwyafrif y cynhyrchiad yn Gymraeg, mae'r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys ieithoedd Cymraeg, Saesneg, Malteg a Hindi, ac yn adrodd stori angerddol Awen sy'n arlunydd tatŵ ac Anwar sy'n cyfieithu'r Beibl – y ddau yn gorfod goresgyn eu rhagfarnau i weithio gyda'i gilydd pan fydd calon eu cymunedau yn cael ei fygwth gan ddatblygwr eiddo barus.

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C; "Mae Gair ar Gnawd yn opera sy'n eang ei hapêl – yn cyfuno gwaith gan unigolion uchel ei bri â chyfraniadau allweddol gan y gymuned leol yn nalgylch Llanelli. Mae S4C yn falch iawn o'n partneriaeth gydag opera Cenedlaethol Cymru, yn wir, mae'n rhan o'n cefnogaeth barhaol i gefnogi a chyd-weithio â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. 'Da ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu cynnwys opera gwreiddiol Cymreig yn rhan o amserlen S4C."

Cyfansoddwr Gair ar Gnawd yw Pwyll ap Siôn a'r libretydd yw Menna Elfyn, ac mae cael dau unigolyn mor brofiadol yn gaffaeliad i'r cynhyrchiad, ynghyd â phrofiadau'r tîm creadigol Angharad Lee (Cyfarwyddwr), Jenny Pearson (Cyfarwyddwr Cerdd), Becky Davies (Cynllunydd). Hefyd ensemble Cerddorfa WNO a'r pianydd Annette Bryn Parri, ymhlith y cerddorion proffesiynol. Y ddau sy'n perfformio rolau arweiniol Awen ac Anwar yw Sian Meinir, mezzo-soprano yng Nghorws WNO, a'r bariton Dyfed Wyn Evans, sy'n perfformio'n rheolaidd yng nghorws ychwanegol WNO.

Mae yma hefyd elfen gymunedol sy'n gwneud y cynhyrchiad hwn yn fwy arbennig na'r arfer i ardal Llanelli. Bydd cantorion lleol, o'r corau a'r ysgolion yn yr ardal, yn dod at ei gilydd i ffurfio'r corws i berfformio gyda chantorion a cherddorion proffesiynol yr WNO. Bydd hefyd lled-gorws o gantorion ifanc, nifer ohonynt yn fyfyrwyr cerdd, sydd wedi eu dewis drwy broses glyweliadau yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Mae'n gyfle bythgofiadwy i'r gymuned a'r cyw cantorion i gael bod yn rhan o gynhyrchiad gyda chwmni opera mor brofiadol â WNO, a chawn ddilyn pob agwedd o'u profiadau yn y rhaglen ddogfen sy'n cael ei chyflwyno gan Trystan Ellis Morris.

Rondo Media yw'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglenni, ac maen nhw wedi bod yn dilyn tîm WNO wrth eu gwaith ers wythnosau ar gyfer y rhaglen ddogfen.

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media; "Ry' ni wedi mwynhau cydweithio gyda Opera Cenedlaethol Cymru ar ddarlledu nifer o glasuron opera o La Traviata i Falstaff gyda Bryn Terfel, ar gyfer S4C, ond mae’r prosiect diweddara yma yn unigryw.

"Mae’r opera ei hun yn un arloesol ond mae stori’r prosiect hefyd yn un gafaelgar ac wedi bod yn bleser i’w dilyn - o ddethol y goreuon ymhlith lleisiau ifanc Cymreig ar gyfer y corws i ddewis perfformwyr o gymuned Llanelli i ymuno â nhw a’r prif gymeriadau ar lwyfan. Mae wedi bod yn fraint cael ffilmio rhai o'r clyweliadau a’r ymarferion. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael ffilmio’r perfformiad gorffenedig mewn lleoliad mor arbennig â'r Ffwrnes."

Dywed Emma Flatley, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Phartneriaethau Opera Cenedlaethol Cymru; "Mae'n gyfle gwych i weithio gydag S4C ar Gair ar Gnawd. Rydym wrth ein bodd yn ymweld â Llanelli, ardal newydd i WNO fynd ag opera ar daith, ac i weithio gyda cantorion Cwm Gwendraeth ac ar draws Cymru. Yn ogystal, trwy'r bartneriaeth hon rydym yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru, ac rydym yn awyddus i weld hon fel cam gyntaf tuag at gydweithrediad pellach yn y dyfodol."

Bydd Gair ar Gnawd yn cael ei pherfformio yn Theatr Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill, gyda'r perfformiad i'w dangos yn llawn yn Opera Gair ar Gnawd: Y Perfformiad ar S4C ar nos Sadwrn 25 Ebrill 7.30, a'r rhaglen ddogfen Opera Gair ar Gnawd: Tu ôl y Llen i'w darlledu ar nos Fercher 22 Ebrill 7.30.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae Gair ar Gnawd yn cael ei pherfformio yn Theatr Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Sadwrn 18 April am 7yh. Mae mwy o wybodaeth am y cynhyrchiad a sut i archebu tocynnau ar gael ar y wefan: http://www.wno.org.uk/cy/event/gair-ar-gnawd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?