S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll yn Y Gelli: awdur y gyfres dditectif yn ymuno ag awduron 'The Bridge' a 'Six Feet Under' yn ystod Gŵyl y Gelli

23 Mai 2015

 Bydd un o awduron Y Gwyll/Hinterland yn ymuno ag ysgrifenwyr, golygyddion a chynhyrchwyr profiadol eraill o Ewrop a'r UDA i rannu eu harbenigedd a'u hysbrydoliaeth gydag ysgrifenwyr mewn sesiwn arbennig yn Y Gelli Gandryll ar ddydd Sadwrn 23 Mai.

Bydd Ed Thomas yn cymryd hoe o ffilmio ail gyfres Y Gwyll yn Aberystwyth er mwyn cynnig arweiniad yn y gweithdy ysgrifennu 'Yn yr Ystafell'; sy'n cael ei gyflwyno gan S4C, Grŵp Stiwdio Pinewood, Tinopolis a menter Y Labordy. Gyda chefnogaeth BAFTA Cymru, ac mi fydd y cyfrif @BAFTACymru yn trydar o'r digwyddiad yn defnyddio #intheroomhay

Ymhlith y cyfranwyr eraill mae Hans Rosenfeldt, awdur The Bridge y ddrama a gynhyrchwyd yn Sweden a Denmarc (fydd yn ymuno â'r sesiwn drwy Skype), ac yn mynychu bydd Craig Wright sydd wedi gweithio ar gyfresi poblogaidd yn yr UDA: Six Feet Under, Lost a Dirty Sexy Money.

Hefyd, yn rhan o'r diwrnod arloesol bydd Caryn Mandabach (Roseanne, Nurse Jackie, Peaky Blinders); Hilary Norrish (Sinking of the Laconia, Garrows Law, Complicit, Omagh); a Nicola Larder o Buccaneer Media.

Bwriad y sesiwn 'Yn yr Ystafell' yw trafod cydweithio mewn dramâu teledu, a rhoi blas o'r broses o gyd-ysgrifennu gyda'r nod o gynhyrchu cynnwys safonol ar gyfer y farchnad ryngwladol. Bydd wyth o awduron yn cymryd rhan yn y gweithdy, ac yn eu plith mae Fflur Dafydd awdures cyfres ddrama newydd S4C, Parch sy'n dechrau nos Sul 31 Mai am 9.00. Hefyd yn cymryd rhan yn y gweithdy bydd Jon Gower, Bethan Marlow a Dafydd James.

Yn cloi'r diwrnod o drafod ac ysgrifennu bydd cynrychiolwyr o'r diwydiant yn cyfrannu at sesiwn drafod wedi ei chadeirio gan Dominic Schreiber, Ymgynghorydd Cyd-gynhyrchu a Chynhyrchydd.

Dywedodd Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C; "Mae'n gyffrous bod S4C, ynghyd â Grŵp Stiwdio Pinewood, Tinopolis a phartneriaeth hyfforddiant Y Labordy, yn cyflwyno sesiwn yn Y Gelli Gandryll eleni a hynny yng nghwmni unigolion mor brofiadol. Yn ystod Gŵyl y Gelli, mae'r dre yn ganolbwynt creadigol; yn lle i ysbrydoli a rhannu syniadau newydd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n hwb i'r awduron yn y gweithdy wrth iddyn nhw arbrofi gyda'r syniad o gyd-ysgrifennu.

"Drwy gyd-ysgrifennu, a phartneriaethau cyd-gynhyrchu, mae Y Gwyll wedi cyrraedd cynulleidfa ryngwladol eang, gyda'r gyfres wedi ei gwerthu i dros 25 o diriogaethau erbyn hyn. Rydym yn annog yr awydd i gynhyrchu cynnwys apelgar ar gyfer y farchnad ryngwladol fel modd o allforio rhagor o gynnwys a diwylliant Cymreig i bob cwr o'r byd."

Mae ail gyfres Y Gwyll/Hinterland yn cael ei ffilmio yn Aberystwyth ar hyn o bryd ac mi fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref, gyda darllediad ar BBC Cymru Wales i ddilyn yn hwyrach. Mae'r ail gyfres wedi ei chynhyrchu gan Fiction Factory ar gyfer y darlledwyr S4C a BBC Cymru Wales, mewn cydweithrediad â Tinopolis ac All3Media International.

Mae'r sesiwn 'Yn yr Ystafell' yn y Gelli yn cael ei chynnal yn Richard Booth's Bookshop, un o leoliadau poblogaidd yr ŵyl. Mae'r digwyddiad yn rhan o gynllun Y Labordy sy'n cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bedwar awdur ehangu eu profiadau drwy hyfforddiant a chydweithio gydag ysgrifenwyr profiadol.

Mae Y Labordy yn brosiect ar y cyd rhwng nifer o bartneriaid yn y maes creadigol; S4C, Creative Skillset Cymru, Ffilm Cymru Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Lenyddiaeth Cymru.

Mae Catrin Hughes Roberts yn ychwanegu; "Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gweithgar ym menter Y Labordy ac o gyd-weithio gyda sefydliadau arbenigol ar draws Cymru. Mae'n un o nifer o ffyrdd y mae S4C yn cydweithio i gynnig hwb ac anogaeth i'r to nesaf o dalentau disglair i ragori yn y diwydiannau creadigol."

Diwedd

Mae mwy o wybodaeth am Yn yr Ystafell ar gael yma: http://www.bafta.org/cy/cymru/beth-syn-digwydd/yn-yr-ystafell-cydweithio-creadigol-mewn-teledu-drama

Am flas o'r gyfres ddrama newydd Parch, ar S4C nos Sul 31 Mai 9.00, ewch i sianel YouTube S4C: https://www.youtube.com/watch?v=1qSs1SYQrZM

Bydd ail gyfres Y Gwyll/Hinterland yn cael ei darlledu gyntaf ar S4C yn yr hydref. Ewch i'r wefan i ddarllen am y gyfres hyd yma: https://www.s4c.co.uk/ygwyll/c_index.shtml

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?