S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag S4C yn Y Sioe

23 Gorffennaf 2015

Roedd S4C yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb i adeilad y sianel ar faes Sioe Frenhinol Cymru heddiw (Dydd Iau 23 Gorffennaf 2015).

Daeth yr Ysgrifennydd Gwladol i'r adeilad i brofi blas o uchafbwyntiau amserlen y sianel ar gyfer y misoedd i ddod. Yn eu plith mae gemau byw S4C yn arlwy Cwpan Rygbi'r Byd 2015 a chyfres newydd hir ddisgwyliedig y ddrama dditectif iasol, Y Gwyll/Hinterland.

Roedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddiddordeb yn narllediadau S4C o Sioe Frenhinol Cymru,

a bu'n ymweld â'r ardal ddarlledu yng nghwmni Boom Pictures Cymru sy'n cynhyrchu'r cynnwys i'r sianel.

Roedd yn gyfle i S4C bwysleisio ei balchder yn ei pherthynas gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Sioe Frenhinol Cymru yw un o brif ddigwyddiadau amserlen S4C, ac eleni mae'r sianel yn darlledu bron i 100 awr yn ystod cyfnod y sioe, ar deledu ac ar-lein.

Mae hynny'n cynnwys bron i 70 awr o ffrydio byw ar-lein sydd ar gael i'w gwylio ar draws y byd; gyda darlledu di-dor o'r prif gylch a'r cystadlaethau cneifio, yn ychwanegol at y rhaglen fyw ddyddiol.

Mae'r sioe flynyddol yn rhan o arlwy eang S4C sy'n adlewyrchu diwydiant a bywyd gwledig yng Nghymru, gyda chyfresi fel Ffermio, Cefn Gwlad a Fferm Ffactor yn amlwg yn yr amserlen.

Roedd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C yn falch o'r cyfle i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol yn Y Sioe; "Gyda'r trafodaethau am ddyfodol ariannu S4C ar gychwyn, roedd heddiw yn gyfle i ddangos bywiogrwydd ac egni gweithgareddau S4C yn y Sioe ac ar y sgrin. Dyma enghraifft amlwg o’r gwasanaeth allweddol mae’r sianel yn ei ddarparu, ac sy’n cael ei werthfawrogi gan wylwyr yng Nghymru ac ar draws y byd.

"Mae swyddogion y Sioe’n pwysleisio’n rheolaidd pa mor bwysig yw’r sylw eang ar S4C i dwf a llwyddiant y Sioe ei hun. Sicrhau cyllid digonol i gynnal gwasanaethau S4C yn y blynyddoedd nesaf yw’r dasg fawr sydd nawr o’n blaenau, yn enwedig o gofio’r toriadau mawr a gafwyd eisoes, ac rydym yn gwerthfawrogi’r diddordeb amlwg mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei gymryd yn ein gwaith."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?