S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Antur Euro 2016 Cymru yn fyw yn y Gymraeg ar S4C

18 Rhagfyr 2015

Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd tair gêm grŵp Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn cael eu dangos yn fyw yn yr iaith Gymraeg.

Bydd modd dilyn tîm cenedlaethol Cymru yn cystadlu mewn pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958 yn yr iaith Gymraeg ar deledu ar ar-lein ar S4C.

Bydd y sianel yn darlledu gemau Cymru yng Ngrŵp B yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn 11 Mehefin, Lloegr ddydd Iau, 16 Mehefin a Rwsia ddydd Llun, 20 Mehefin.

Bydd gwylwyr ar draws y DU sy'n dymuno gweld y gemau'n fyw yn y Gymraeg yn gallu dewis dilyn y cyffro ar nifer eang o blatfformau a gwasanaethau ar-lein.

Does dim modd cadarnhau eto pwy fydd yn cyflwyno'r rhaglenni byw ar S4C, ond mae gan y sianel brofiad eang ac enw da fel darlledwr digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol.

Bu S4C yn dangos ymgyrch hanesyddol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016, gyda rhaglenni uchafbwyntiau estynedig o'r gemau, wrth i arwyr Chris Coleman sicrhau ei lle mewn pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd.

Dywedodd Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C; "Rydym wrth ein boddau bod modd i gefnogwyr pêl-droed ar draws y DU wylio gemau Euro 2016 Cymru yn yr iaith Gymraeg. Mae'n gwbl addas fod un o'r digwyddiadau mwyaf yn hanes chwaraeon ein cenedl ar gael yn ei dwy iaith genedlaethol. Mae'r daith fythgofiadwy yn parhau i wylwyr S4C, yn dilyn ein rhaglenni uchafbwyntiau estynedig o gemau rhagbrofol Euro 2016. Hoffwn ddiolch i'r darlledwyr BBC ac ITV am gydweithio'n agos â ni i sicrhau fod y gemau yma ar gael yn y Gymraeg."

Daw'r cyhoeddiad yma wrth i S4C edrych ymlaen at ail-fyw'r daith i Euro 2016 yn y rhaglen Y Daith i Ewro 2016: Allez Cymru! nos Lun 28 Rhagfyr 9.00, ble byddwn yn dathlu llwyddiant y tîm gyda golwg ar gemau cofiadwy'r ymgyrch.

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104. Ac ar draws y DU ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166. Hefyd ar-lein s4c.cymru, tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?