S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gem fyw XV Dethol Uwchgynghrair y Gleision i’w dangos ar ddydd Sadwrn

08 Ionawr 2016

Fe fydd penwythnos llawn rygbi i’w weld ar S4C rhwng Ionawr 15 a 18, gan gynnwys gêm fyw XV Dethol Uwchgynghrair y Gleision ar ddydd Sadwrn, ynghyd ag uchafbwyntiau o holl gemau rhanbarthau Cymru yn Ewrop dros y pedair noson.

Ar ôl cynnal trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru, y Gleision a grwpiau eraill perthnasol, mae gêm XV Dethol Uwchgynghrair y Gleision yn erbyn Cymry Llundain wedi cael ei symud i ddydd Sadwrn, 16 Ionawr, gyda’r gic gyntaf am 2.45pm.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C, Rygbi: Gleision v Cymry Llundain, gyda’r rhaglen yn dechrau am 2.30pm.

Fe fydd hyn yn osgoi gwrthdaro gyda gêm tîm rhanbarth y Gleision oddi cartref yn erbyn y Harlequins yng nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop ddydd Sul, 17 Ionawr.

Fe fydd uchafbwyntiau o’r gêm hon i’w gweld yn rhaglen Rygbi: Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Sul am 10pm, ynghyd ag uchafbwyntiau gêm Scarlets oddi cartref yn Racing 92 yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd mwy o rygbi i’w weld ar nos Lun am 10pm, gydag uchafbwyntiau pellach o gwpanau Ewrop.

Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C Sue Butler, “Rydym ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at benwythnos cyffrous o gemau rownd 5 Ewrop, gyda chymysgedd o gemau byw ac uchafbwyntiau.

"Mae’n wych ein bod yn medru dangos gêm XV Dethol Uwchgynghrair y Gleision ar amser cyfleus i gefnogwyr rygbi ar y terasus, yn ogystal â gwylwyr S4C, ar benwythnos allweddol o gemau yn Ewrop i’r pedwar rhanbarth.”

Yn y rhaglen Rygbi: Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener, 15 Ionawr, am 10pm, fe fydd uchafbwyntiau o gêm gartref y Gweilch yn erbyn Clermont Auvergne yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop, a gemau o’r Cwpan Her, gan gynnwys yr ornest rhwng y Dreigiau a Castres yn Rodney Parade.

Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau, sydd yn cael ei chyd-gynhyrchu gan Sunset and Vine Cymru ac SMS, yn cael eu cyflwyno gan Gareth Roberts a chyn-gapten Cymru, Gwyn Jones.

I goroni wythnos brysur o rygbi ar S4C, bydd y rhaglen gylchgrawn Rygbi Pawb yn dychwelyd ar ddydd Mercher, 20 Ionawr gyda darllediad byw ar-lein o gêm gystadleuaeth y colegau, rhwng Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Gyfun Glantaf, gyda’r gic gyntaf am 2.30pm. Fe fydd yr uchafbwyntiau i’w gweld ar S4C am 10pm.

Gyda’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Owain Gwynedd a’i chynhyrchu gan SMS, mae Rygbi Pawb yn dangos y gorau o rygbi ieuenctid Cymru, yn ogystal â newyddion ac uchafbwyntiau o rygbi ar draws y byd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?