S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Angen ystyried sut i ddiogelu annibyniaeth S4C yn ofalus yn ôl Prif Weithredwr y sianel

13 Ebrill 2016

 Mae gwarchod annibyniaeth S4C yn allweddol i ddyfodol darlledu Cymraeg a’r cyfryngau yng Nghymru, ac mae angen ystyriaeth ofalus er mwyn sicrhau bod hynny’n cael ei gyflawni yn ôl Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones.

Mae’n ymddangos y gallai’r system sydd wedi’i chreu er mwyn ariannu S4C o ffi’r drwydded wynebu newidiadau sylfaenol dros y misoedd nesaf, yn sgil newidiadau i strwythurau’r BBC. Mae Adran ddiwylliant llywodraeth y DU yn ystyried argymhellion adroddiad Clementi i ddyfodol llywodraethiant y BBC. Os yw argymhellion adroddiad Clementi’n cael eu derbyn fe fydd Ymddiriedolaeth y BBC’n diflannu, a bydd y BBC yn cael ei rheoli gan Fwrdd Unedol.

Ond wrth siarad â’r Westminster Media Forum yn San Steffan, fe ddywedodd Ian Jones y byddai tranc yr Ymddiriedolaeth a dyfodiad bwrdd unedol yn y BBC yn golygu na allai’r trefniadau presennol sy’n sicrhau annibyniaeth S4C barhau.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C; "O ran annibyniaeth S4C mae risgiau sylweddol, yn benodol o ystyried argymhellion adroddiad Syr David Clementi sydd wedi awgrymu sefydlu Bwrdd Unedol y BBC.

"Mae'n rhaid pwysleisio na fyddai'r trefniadau cyllido presennol ar gyfer S4C yn gweithio o dan yr amgylchiadau hynny heb danseilio annibyniaeth S4C fel darlledwr. Mae'n anodd rhagweld sut all corff sy'n dosrannu cyllid fod yn ddyfarnwr ac, ar yr un pryd, yn gallu elwa o'r penderfyniadau cyllido.

"Bydd angen ystyried hyn yn ofalus dros y misoedd nesaf – a chydnabyddiaeth o'r ffaith bod S4C yn endid annibynnol ac unigryw sydd wedi ei greu er mwyn darparu Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg."

Roedd y drafodaeth yn y Westminster Media Forum yn canolbwyntio ar sut all darlledwyr cyhoeddus ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i'r gynulleidfa. Yn ei araith, pwysleisiodd Ian Jones y gall darlledwyr weithio'n well gyda'i gilydd er mwyn darparu gwasanaeth cyflawn a boddhaol i'r cyhoedd, a bod gwarchod annibyniaeth S4C yn rhan allweddol o hynny.

Meddai Ian Jones; "Mae'r gwasanaeth mae S4C yn ei ddarparu yn enghraifft o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn ei ffurf fwyaf elfennol. Heb S4C ni fyddai unrhyw wasanaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ei hiaith ei hunain. Ond mae'r sianel hefyd yn rhan hanfodol o'r darlun cyfan ar draws y DU. Mae'r sianel yn bwysig iawn ar gyfer plwraliaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ar gyfer y DU i gyd."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?