S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Gwyn Thomas; gŵr geiriau

14 Ebrill 2016

   Mae Cadeirydd S4C, Huw Jones, wedi talu teyrnged i'r llenor dylanwadol Gwyn Thomas.

Bu farw’r Athro Gwyn Thomas yn 79 oed ddydd Iau, 14 Ebrill 2016. Roedd yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, ac yn yr ardal honno ac yn ninas Bangor y bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Trist iawn yw clywed am farwolaeth y llenor Gwyn Thomas. Yn ogystal â bod yn llenor ac ysgolhaig o fri, roedd Gwyn Thomas yn ymddiddori’n ddwfn ym mhob agwedd ar ddiwylliant a chelf gyfoes, gan ddadlau'n gyson dros ddehongliad eang a chynhwysol o'r termau hyn. Bydd cofio mawr am ei waith a hiraeth am ei gwmni.

"Mae ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru yn amhrisiadwy, a bydd ei ddylanwad yn parhau thrwy ei gyfrolau niferus o farddoniaeth, dramâu a'i astudiaethau - a hefyd drwy'r llu o fyfyrwyr a gafodd ei hysbrydoli ganddo yn ystod ei ddegawdau fel Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor."

Roedd Gwyn Thomas yn arbenigwr ar chwedlau'r Mabinogi, ac ef oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r chwedlau i'r Saesneg. Roedd yn sgriptiwr toreithiog hefyd ac fe addasodd rhai o chwedlau'r Mabinogi ar gyfer ffilm animeiddiedig i S4C yn 2002, gyda Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd yn lleisio.

Yn 2006 fe enillodd wobr am ei gyfraniad allweddol i fyd y ffilm a'r celfyddydau gweledol yng Nghymru, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw yn nyddiau cynnar ffilmiau Cymraeg fel aelod o Ffwrdd Ffilmiau Cymru. Ef, ynghyd â'r cyfarwyddwr William Aaron, a gynhyrchodd y ffilm arswyd Gymraeg gyntaf yn 1981, O'r Ddaear Hen.

Roedd yn fardd poblogaidd o gryn bwysigrwydd hefyd, a’i gerddi niferus yn bwrw golwg dreiddgar ar bobl a’r byd o’i gwmpas mewn ffordd boblogaidd, hawdd ei deall.

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni, fe ddarlledodd S4C raglen oedd yn ddathliad o'i gyfraniad i lên Cymru. Yn y rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau, roedd Gwyn Thomas yn ein tywys yn ôl i fro ei febyd ym Mlaenau Ffestiniog, ac i gwrdd â llenorion ac artistiaid eraill i drafod y broses o greu; gan holi o le mae'r awen a'r ysbrydoliaeth yn dod.

Bu'n sgwrsio â'r cerflunydd John Meirion Morris a'r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a'r cyfansoddwr Owain Llwyd. A thrwy gyfrwng y sgyrsiau yma cafwyd golwg o'r newydd ar waith ei gwaith nhw, ac ar yrfa Gwyn ei hun.

Yn deyrnged i'r Dr Gwyn Thomas, bydd y rhaglen Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau yn cael ei dangos eto ar S4C nos Sul yma, 17 Ebrill am 10.00.

Bydd y rhaglen Heno, am 7.00 o'r gloch nos Iau 14 Ebrill, hefyd yn cynnwys teyrnged iddo.

Diwedd 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?