S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhagor o Gelwydd Noeth gan S4C yn dilyn llwyddiant partneriaeth Geltaidd

20 Ebrill 2016

 Mae S4C wedi comisiynu cyfres arall o'r sioe gwis Celwydd Noeth, yn dilyn ymateb positif gan wylwyr.

Mae'r gyfres yn addasiad Cymraeg o'r cwis 'The Lie' gan STV yn yr Alban, TV3 yn yr Iwerddon a GroupM Entertainment.

Daw'r cyhoeddiad wrth i gynhyrchwyr a darlledwyr o'r gwledydd Celtaidd gwrdd yn Dugavarn, Iwerddon ar gyfer yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2016, rhwng 20 a 23 Ebrill. Mae'r Ŵyl yn dathlu'r cyfryngau yn y gwledydd Celtaidd a'i hieithoedd lleiafrifol, ac mae'n dod â phobl o'r diwydiant at ei gilydd i siarad, i rannu syniadau a chreu cyfleoedd i gyd-weithio.

Mae Celwydd Noeth yn gynhyrchiad gan Cwmni Da ac fe gafodd ei dangos gyntaf ar S4C ym mis Ionawr 2015. Mae wedi ei chynhyrchu mewn partneriaeth â STV a TV3, ynghyd â chydberchnogion y fformat GroupM Entertainment a'r dosbarthwyr Red Arrow International.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Ry' ni wrth ein bodd gyda'r ymateb fu i Celwydd Noeth ac, oherwydd hynny, 'da ni'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi comisiynu cyfres arall ar gyfer ei dangos y flwyddyn nesaf. Ond fydd dim rhaid aros tan hynny i fwynhau'r cwis am fod gennym ni rhagor o benodau yn barod i'w darlledu ar S4C ym mis Medi."

Roedd y bartneriaeth gyda TV3 a STV o fudd mawr i'r cynhyrchwyr Cwmni Da, yn ôl Neville Hughes, Cyfarwyddwr Creadigol y cwmni.

Meddai Neville Hughes o Cwmni Da, "Drwy weithio gyda STV a TV3 ry' ni wedi defnyddio fformat cwis llwyddiannus a rhoi ein stamp ein hunain arni. Mae'r rheolau yn syml ac roedd hynny yn apelio; yn gyntaf am ei bod hi'n adloniannol ond hefyd am ei fod yn hawdd rhoi'r hunaniaeth Gymraeg iddi ar gyfer gwylwyr S4C."

Mae Celwydd Noeth yn cael ei galw'n 'gwis heb gwestiynau'. Drwy weithio mewn parau, y cyfan sy'n rhaid i'r cystadleuwyr ei wneud ydi dewis y celwydd o blith rhestr o ffeithiau cywir. Gyda phob ateb cywir maen nhw'n ennill mwy o arian i'r pot, ond gyda phob lefel hefyd mae'r rhestr o ffeithiau yn cynyddu. Tasg syml ar yr olwg gyntaf, ond mae hi'n stori wahanol pan mae'r cystadleuwyr o dan bwysau ac ar ras yn erbyn y cloc.

Y cyflwynydd profiadol Nia Roberts sy'n arwain y gyfres Gymraeg ac fe wnaeth y cynhyrchwyr weithio'n agos gyda chyfieithwyr ac academyddion i baratoi cwestiynau Cymreig sy'n heriol ac yn achosi penbleth i'r cystadleuwyr.

Roedd cydweithio hefyd yn fantais ar gyfer safon y cynhyrchiad wrth i'r tri phartner ffilmio'r gyfres ar yr un pryd, yn yr un stiwdio gan rannu adnoddau, amser a phrofiad.

Mae Neville Hughes yn esbonio, "Roedd rhannu stiwdio yn Nulyn, gan ffilmio ein fersiwn ni'r un pryd ag STV a TV3, yn torri costau yn sylweddol, heb amharu ar yr ansawdd. Mae'r gyfres yn edrych yn slic ac yn broffesiynol ac mi fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni greu cyfres o'r fath safon cynhyrchu pe baem ni'n gweithio ar ein pennau ein hunain, heb y gefnogaeth a heb rannu adnoddau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fynd 'nôl i'r stiwdio i recordio rhagor.

"Rydym wedi dysgu llawer wrth weithio gyda'r cynhyrchwyr eraill ac roedden ninnau yn falch o rannu ein profiadau ni. Er enghraifft, ni yw'r cyntaf i wahodd enwogion i gystadlu, ar gyfer pennod arbennig ar S4C dros gyfnod y Nadolig 2015. Roedd hynny wedi dangos i'r lleill fod modd i'r cwis weithio mewn rhaglenni thema arbennig hefyd."

Bydd Cwmni Da yn ffilmio'r casgliad nesaf o benodau ar ddiwedd y flwyddyn, neu ddechrau 2017. Mi fydd gwybodaeth am sut i gystadlu ar gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn y cyfamser, mi fydd Celwydd Noeth yn ôl gyda chyfres arall yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Medi.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?