S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

"Cymraeg, ifanc a …" – herio pobl ifanc i greu ffilm fer i S4C

04 Mai 2016

Mae 30,000 o fechgyn a merched ar draws Cymru yn cael ei hannog i ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu ffilm ar gyfer cystadleuaeth gan S4C.

Mae sianel genedlaethol Cymru yn cyd-weithio â'r Boys and Girls Clubs of Wales i gynnal cystadleuaeth, ac i herio 30,000 o aelodau ifanc y clybiau ar draws Cymru i greu ffilm fer ar gyfer gwefan S4C ar y thema "Cymraeg, ifanc a ...".

Bydd hefyd cyfle iddyn nhw ennill £500 ar gyfer eu Clwb mewn pleidlais ar wefan S4C.

Mae S4C yn chwilio am syniadau gwreiddiol, mentrus a bywiog, meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Gwyn Williams;

"'Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilmiau, ac i weld sut y bydd y bobl ifanc yn dewis gorffen y frawddeg "Cymraeg, ifanc a ...". Wrth fynd ati i greu ei ffilm, dwi'n ei hannog nhw i fod yn wreiddiol, yn uchelgeisiol, ac yn fentrus! Mi fyddwn ni'n falch iawn o gael dangos rhai o'i gwaith ar wefan S4C a chyflwyno'r wobr o £500 i'r buddugwr. Pob lwc."

Wrth fynd ati i greu ei ffilmiau, mi fydd y bobl ifanc yn cael hyfforddiant a chyngor ar sut i ddefnyddio ffôn clyfar i ffilmio ac i olygu ffilm fer ei hunain.

Dywedodd Joff Caroll, Prif Weithredwr Boys and Girls Clubs of Wales; "Mae hwn yn brosiect gwych ac rwy'n siŵr y cawn ni ffilmiau rhagorol gan y bobl ifanc. Mi fydd aelodau'r Clybiau yn elwa o ddysgu sgiliau newydd wrth olygu fideo wrth gael hwyl yn adrodd ei straeon."

Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl aelodau'r Boys and Girls Clubs of Wales – dros 30,000 o bobl ifanc Cymru. Y cyfan sydd ei angen yw syniad gwreiddiol a digon o frwdfrydedd i greu ffilm ar y thema "Cymraeg, Ifanc a…"

Mae dau gategori; oedran 8-15 a 16-25. Mae angen i bob ffilm fod o leia’ 1.5 munud o hyd a dim hwy na 3 munud ac mae'n rhaid cynnwys yr iaith Gymraeg.

Ar ôl derbyn y ceisiadau i gyd, bydd panel o feirniaid yn dewis rhestr fer i'w llwytho ar wefan S4C. Bydd y cyhoedd yna'n cael cyfle i bleidleisio am ei ffefryn ac i ddewis enillydd y wobr o £500 ar gyfer eu Clwb.

Os oes awydd gennych chi i gymryd rhan, cysylltwch â'r Clwb Boys and Girls Clubs of Wales leol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?