S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll/Hinterland yn cael ei dangos yn Unol Daleithiau'r America

26 Mai 2016

Bydd y ddrama drosedd lwyddiannus Y Gwyll/Hinterland i'w gweld yn fuan yn yr UDA ar deledu cyhoeddus rhad ac am ddim. Mae’r dosbarthwr rhyngwladol all3media International wedi gwerthu'r gyfres gyntaf i American Public Television (APT).

Gwnaed y cyhoeddiad yn Efrog Newydd yr wythnos hon, gan uwch gynhyrchydd y gyfres Ed Thomas mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cyn-fyfyrwyr.

Mae cast a chriw Y Gwyll ar hyn o bryd yn ffilmio'r drydedd gyfres yn ardal Aberystwyth, a bydd y gyfres newydd yn cael ei dangos yn gyntaf ar S4C ym mis Hydref, 2016.

Mi fydd cyfres gyntaf Y Gwyll – y fersiwn Saesneg – yn cael ei dangos yn yr UDA o 30 Mehefin ymlaen, mewn 13 o farchnadoedd teledu sy'n cynnwys dinasoedd Kansas, Seattle, Oregon, Milwaukee, Buffalo Efrog Newydd a Boston.

Mae'r ddrama drosedd eisoes ar gael ar Netflix yn America, ac mae'r gyfres wedi cael ei gwerthu i ar draws y byd erbyn hyn. Yn eu plith mae sawl gwlad Ewropeaidd: Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Norwy, Y Ffindir, Gwlad Belg, Slofenia, Ffrainc a Denmarc.

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi croesawu'r newyddion:

"Rwy'n hynod falch o lwyddiant Y Gwyll/Hinterland ac mae’n gyffrous clywed y bydd cynulleidfa eang yn yr UDA yn gallu mwynhau'r gyfres wych ar deledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae poblogrwydd Y Gwyll yn tyfu o hyd, ac mae llwyddiant y gwaith wrth gael ei allforio dramor yn bwysig i S4C ac i Gymru - gan godi proffil y wlad a'n diwydiannau creadigol. Mae'n dangos sut mae buddsoddi yn y diwydiannau yma’n dwyn sylw rhyngwladol i Gymru, ac yn arwain at gyfleoedd a datblygiadau pellach sydd hefyd er budd yr economi."

Mae Y Gwyll eisoes wedi derbyn clod yn yr Unol Daleithiau, gan ennill prif wobr Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd ym mis Ebrill eleni. Fe dderbyniodd y gyfres wobr y 'Grand Award' sy'n cael ei rhoi i'r tri chynhyrchiad sydd wedi ennill y sgôr uchaf o blith yr holl enwebiadau. Yn ogystal ag ennill y wobr hon, fe enillodd wobr Medal Aur am y ddrama drosedd orau.

Bydd trydedd gyfres Y Gwyll yn cael ei dangos gyntaf ar S4C yn yr hydref. Y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru, ynghyd ag all3media International, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy’n cyd-ariannu’r cynhyrchiad, a’r cwmni teledu blaengar Fiction Factory yw’r cynhyrchwyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?