S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddangos uchafbwyntiau gêm gyfeillgar Sweden v Cymru

31 Mai 2016

Y tro diwethaf i Gymru gyrraedd pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol oedd yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Sweden ym 1958 – ac felly mae'n hynod briodol bod y tîm cenedlaethol yn mynd yno am eu gêm baratoi hollbwysig cyn cystadleuaeth Euro 2016.

A bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau gêm tîm pêl-droed Cymru oddi cartref yn Stockholm nos Sul, 5 Mehefin.

Llai nag wythnos cyn y gêm gyntaf yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn erbyn Slofacia, bydd Chris Coleman a'r garfan yn hedfan i brifddinas Sweden i herio'u tîm cenedlaethol yn y Friends Arena.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau'r gêm gyfeillgar yma ar S4C ac fe fydd yn cael cwmni cyn chwaraewyr Cymru Owain Tudur Jones a Dai Davies yn y stiwdio. Nic Parry a Malcolm Allen fydd yn sylwebu.

Meddai Dylan Ebenezer, "Mae'n debyg nad yw un gêm gyfeillgar Cymru ers degawdau wedi cael cymaint o sylw â hon.

"Mae llai nag wythnos i fynd tan yr Euros a byddwn ni'n chwarae yn erbyn gwlad arall sydd yn y rowndiau terfynol – a chwarae yn erbyn arwr mawr Sweden Zlatan Ibrahimovic - mae'r gêm yma'n un enfawr."

Gyda Gareth Bale yn ôl yn y gorlan ar ôl ei ddyletswyddau gyda Real Madrid, mae Dylan yn credu dylai Coleman feddwl yn ddwys cyn dewis y tîm.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser da i chwarae ein tîm cryfa' - does dim cyfrinachau a does dim pwynt dal neb yn ôl nawr.

"A gyda'r posibilrwydd o Joe Ledley yn methu allan oherwydd ei anaf, bydd pawb yn cymryd yn ganiataol mai Andy King fydd yn cymryd ei le.

"Ond dydych chi byth yn gwybod gyda Chris Coleman ac Osian Roberts; gallen nhw fynd am rywun fel David Vaughan, chwaraewr gweithgar arall.

"Mae'n bosib hefyd y byddan nhw'n rhoi cyfle i lot o'r eilyddion yn ystod yr ail hanner – chwaraewyr sy'n ysu i greu argraff cyn Euro 2016."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?