S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Trysorfa archif S4C yn cyfoethogi astudiaethau myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

03 Awst 2016

Mi fydd myfyrwyr sy'n astudio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol nawr yn gallu defnyddio rhaglenni o archif eang S4C i'w helpu gyda'u hastudiaethau.

Mae adnodd newydd wedi ei lansio heddiw, ddydd Mercher 3 Awst 2016, sy'n caniatáu i fyfyrwyr a staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wylio a defnyddio rhaglenni S4C yn hawdd drwy Lyfrgell ar-lein y Coleg.

Mae'r cynllun yn rhan o bartneriaeth rhwng S4C, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Asiantaeth Recordiadau Addysgiadol (ARA. Educational Recording Agency - ERA) er mwyn hwyluso mynediad i fyfyrwyr a staff y Coleg at storfa fawr o raglenni defnyddiol o archif y sianel Gymraeg.

Ymhlith y rhaglenni sydd ar gael i fyfyrwyr yn y Llyfrgell ar-lein mae'r gyfres Gwlad Beirdd, sy'n trafod gwaith a phrofiadau rhai o'n beirdd mwyaf; y cyfresi hanes Tywysogion a Lleisiau'r Rhyfel Mawr; gwyddoniaeth Corff Cymru; a thaith ar hyd rhai o afonydd eiconig y byd yng nghyfres Yr Afon.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Mae rhaglenni teledu yn ffordd wych o ddysgu am y byd o'n cwmpas ac mae archif S4C yn drysorfa genedlaethol gyda dros dri degawd o raglenni yn cofnodi pob agwedd o fywyd y genedl ac mae diolch i'r sector gynhyrchu am hynny. Gosod addysg fel un o gonglfeini ein strategaeth ddigidol yw un o'r amcanion a gyhoeddwyd yn ein dogfen Edrych i'r Dyfodol ym mis Tachwedd y llynedd. Ein bwriad yw gweithio gyda sefydliadau addysg, fel y berthynas arbennig hon gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ARA, er mwyn creu a rhyddhau adnoddau at bwrpasau addysgiadol hirdymor. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y myfyrwyr yn elwa o'r adnodd newydd yma, ac yn y dyfodol mi fyddwn yn gweld llawer mwy o raglenni S4C yn cael ail fywyd ym myd addysg."

Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; "Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o'r bartneriaeth newydd hon gydag S4C a'r ARA. Trwy hyn, bydd y cyfoeth o ddeunydd cyfrwng Cymraeg sydd yn archif S4C ar gael ar gyfer addysg ac ymchwil academaidd am y tro cyntaf erioed. Gall staff wneud ceisiadau am raglenni a chyfresi o'r archif er mwyn cyfoethogi profiadau eu myfyrwyr ac at ddibenion gwaith ymchwil, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd staff a myfyrwyr yn manteisio ar yr adnodd newydd hwn."

Mae'r Coleg yn meddu ar drwydded ARA sy’n caniatáu i athrawon recordio rhaglenni teledu a’u defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r cynllun hwn wedi ei wireddu gyda chefnogaeth ARA.

Helen Nicholson yw Prif Weithredwr ARA, meddai; "Dyma gyfle gwych i ddangos sut mae'r Drwydded ARA yn caniatáu mynediad i ddewis eang o ddeunyddiau darlledu. Drwy ddefnyddio trwydded ARA i fynd at archif eang S4C mae sefydliadau yng Nghymru yn gallu manteisio ar rym rhaglenni teledu a radio. Drwy ddefnyddio'r cynnwys yma yn greadigol, maen nhw'n gallu ymgysylltu â'r myfyrwyr ac esbonio testunau yn glir ac yn effeithiol."

Ar hyn o bryd, mae dros 100 o raglenni ar gael i fyfyrwyr a staff drwy fewngofnodi i Lyfrgell ar-lein y Coleg. Mae'r rhaglenni yma wedi eu dewis i gyd-fynd â phynciau ac astudiaethau perthnasol myfyrwyr y Coleg ac mi fydd y nifer sydd ar gael yn cynyddu gydag amser. Mae hawl i fyfyrwyr a staff y Coleg gyflwyno cais am unrhyw raglenni maen nhw'n dymuno eu gweld.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?