S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu uchafbwyntiau Taith y Llewod i Seland Newydd

03 Mai 2017

 Bydd Llewod Prydain ac Iwerddon yn wynebu'r her eithaf yr haf yma wrth iddyn nhw geisio trechu’r Crysau Duon ar eu tomen eu hunain ac fe fydd S4C yn eu dilyn nhw bob cam o’r ffordd.

Wedi dod i gytundeb gyda deilydd y drwydded swyddogol a’r prif ddarlledwr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Sky Sports, bydd uchafbwyntiau holl gemau Taith y Llewod i’w gweld ar deledu daearol, yn rhad-ac-am-ddim ar S4C drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau’r 10 gêm yn ystod y daith, gan gynnwys y tair gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd.

Fe gaiff yr uchafbwyntiau eu dangos mewn slot yn ystod yr oriau brig ar ddiwrnod pob gêm.

Catrin Heledd fydd yn arwain y tîm cyflwyno, tra bydd Gareth Rhys Owen a Wyn Gruffydd yn rhannu dyletswyddau sylwebu.

Sunset and Vine Cymru a SMS Media fydd yn cynhyrchu’r gyfres.

Bydd uchafbwyntiau’r gêm gyntaf, yn erbyn XV yr Undeb Rhanbarthol yn cael eu dangos ddydd Sadwrn, 3 Mehefin.

Bydd y prawf gyntaf yn erbyn y Crysau Duon ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin ym Mharc Eden yn Auckland, gyda’r ail brawf yn dilyn wythnos wedyn yn y Stadiwm Westpac yn Wellington, ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf.

Bydd y ddau dîm yn dychwelyd i Barc Eden ar gyfer y prawf olaf, ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru, ac ar Sky, Freesat a Virgin Media ar draws y Deyrnas Unedig. Mae gwasanaeth HD i’w gael ar lwyfannau Sky a Freesat.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mae Taith y Llewod Prydain ac Iwerddon i Seland Newydd yn rhywbeth sydd ond yn digwydd unwaith bob 12 mlynedd ac mae’n ddigwyddiad unigryw o fewn y byd chwaraeon.

"Rydym yn gobeithio bydd gwylwyr wrth eu boddau ein bod ni’n cynnig uchafbwyntiau rhad-ac-am-ddim o bob gêm ar S4C.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?