S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi darllediad byw o gemau Cynghrair y Cenhedloedd a gemau rhagbrofol Ewro 2020

Cyhoeddodd S4C heddiw eu bod am ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro 2020 yn fyw.

Mae'r cytundeb gyda deiliad hawliau'r DU ac Iwerddon, Sky Sports, hefyd yn cynnwys dwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ac Albania.

Mae'r cytundeb ar gyfer 16 gêm yn golygu y bydd modd i wylwyr fwynhau'r arlwy yn fyw ar deledu am ddim ac yn yr iaith Gymraeg. Y gemau cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd fydd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau 6 Medi am 7.30, ac yna ddeuddydd yn ddiweddarach yn erbyn Denmarc yn Aarhus, ar brynhawn Sul am 4.45.

Mae'r ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd ar 11 Hydref ac oddi cartref yn Albania ar 20 Tachwedd.

Mae gemau rhagbrofol UEFA Ewro 2020 yn dechrau ym mis Mawrth 2019, gyda phob un o'r deg gêm i'w dangos yn fyw yn yr iaith Gymraeg ar y sianel genedlaethol am ddim.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees, "Mae hyn yn newyddion ardderchog i wylwyr S4C ac i gefnogwyr pêl-droed Cymru. Yr ydym i gyd yn cofio'r gystadleuaeth Ewro ddiwethaf yn 2016 a'r llawenydd a'r pleser a ddaeth hynny i bawb yng Nghymru. Roedd yn fraint i allu dod â'r profiadau hynny i'n gwylwyr.

"Gobeithio y bydd y ffordd i 2020 yr un mor gyffrous a llwyddiannus ar y maes ac ar y sgrin."

Yn cyflwyno bydd tîm profiadol y gyfres Sgorio, ac ar gyfer y gem fyw gyntaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mi fydd y cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, John Hartson, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cadw cwmni i Dylan Ebenezer yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mi fydd pob gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C gyda'r darllediad yn cael ei gynhyrchu ar gyfer S4C gan Rondo Media.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?