S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn llwyfannu Cyngerdd Cymru ac Wcráin

18 Mawrth 2022

Fel gwasanaeth darlledu unigryw Cymraeg mae S4C yn cydlynu ystod o ddigwyddiadau mewn ymateb i'r sefyllfa ddychrynllyd yn Wcráin.

Yn rhan o'r gweithgareddau ac mewn cydweithrediad â DEC Cymru bydd S4C yn darlledu cyngerdd arbennig i godi arian i Apêl Ddyngarol Wcráin DEC Cymru.

Bydd Cyngerdd Cymru ac Wcráin yn cael ei gynnal ar Nos Sadwrn 2 Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn cael ei ddarlledu ar S4C yr un noson.

Bydd artistiaid o Gymru ac Wcráin yn perfformio yn y cyngerdd a nifer ohonynt gyda stori neu gyswllt unigryw gyda'r sefyllfa drasig bresennol.

Un o brif artistiaid y noson fydd Yuriy Yurchuk, bariton o Wcráin sydd ar hyn o bryd yn perfformio yn Covent Garden. Daeth Yuriy i amlygrwydd wedi iddo ganu anthem genedlaethol Wcráin tu allan i 10 Downing Street ar ddechrau'r gwrthdaro.

Yn ogystal bydd perfformiadau gwefreiddiol gan y tenor Gwyn Hughes Jones, Côr y Cwm, Côr Glanaethwy, a Chôr Ysgol Plascrug Aberystwyth – ysgol leol sydd â 27 o ieithoedd amrywiol ac sydd â phlant o Wcráin yn ddisgyblion yno.

Hefyd, bydd Contemporary Music Collective yn perfformio yn y gyngerdd. Tanya Harrison sy'n gyfrifol am y grwp - mae Tanya sy'n wreiddiol o Wcráin ond yn byw yng Nghaerdydd bellach wedi cyfansoddi gweddi i Wcráin, a bydd y grwp yn canu'r weddi ar y noson. Bydd mwy o enwau hefyd yn cael eu cyhoeddi yn fuan

"Dyma gyfle gwych i uno gyda'n gilydd a chofio am erchyllterau gwrthdaro Wcrain drwy bŵer cerddoriaeth ac adloniant." meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C. "Mae amrywiaeth yr artistiaid yn plethu'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin ac ry'n ni'n edrych ymlaen i gefnogi a chyfrannu at ymgyrch ddyngarol DEC Cymru trwy'r cyngerdd unigryw yma."

Dywedodd Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol y DEC yng Nghymru:

"Mae wedi bod yn dorcalonnus gweld yr argyfwng hwn yn datblygu ac yn dwysau yn Wcráin wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid groesi'r ffiniau bob dydd gyda dim ond yr hyn y gallent ei gario. Mae'r sefyllfa i'r bobl o fewn Wcráin hefyd yn mynd yn fwyfwy ansicr.

"Ond mae gweithgareddau fel hyn yn cynnig gobaith. Bydd yr arian a godir gan y cyngerdd yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro. Bydd yn danfon neges gref o gariad a chefnogaeth, tra hefyd yn galluogi elusennau'r DEC i ddarparu cymorth brys nawr yn ogystal â helpu i ailadeiladu bywydau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C ac i'r cwmni cynhyrchu Rondo Media am eu cefnogaeth i'r apêl hon."

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media y cwmni sy'n cynhyrchu'r digwyddiad:

"Wrth i berfformwyr a cherddorion o Wcráin a Chymru rannu'r un llwyfan fe welwn bod diwylliant yn medru pontio gwledydd. Rydym yn hynod ddiolchgar i bob un o'r artistiaid am eu hamser a'u hymroddiad, ac yn falch o fedru cydweithio gyda DEC Cymru ac S4C a chynnig cymorth dyngarol holl bwysig i bobl Wcráin.'

Mae modd archebu tocynnau drwy gysylltu gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar:

01970 62 32 32 neu https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?