S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a NTFS Cymru Wales yn cydweithio i helpu darpar sgriptwyr ffilm Cymraeg i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu mewn cwrs newydd

9 Mawrth 2023

Heddiw, mae S4C a'r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol yng Nghymru (NFTS) wedi cyhoeddi manylion cwrs sgriptio newydd sbon sydd wedi'i gynllunio i helpu sgriptwyr i ddatblygu eu llais cinemateg eu hunain yn Gymraeg.

Fe fydd y cwrs chwe mis O'r Sgript i'r Sinema, a ariennir gan Cymru Greadigol, yn caniatáu i'r cyfranogwyr hogi eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y sgrin fawr – o'r cysyniad cychwynnol i ysgrifennu sgript sgrin gyflawn.

Y gobaith yw y bydd y cwrs yn helpu i aildanio'r diwydiant ffilmiau nodwedd Cymraeg, gan ddod â straeon cyfoes ac ysbrydoledig a wnaed yng Nghymru i'r sgrin – gartref ac ar draws y byd – unwaith eto.

Yn ystod y 1990au, cafodd ffilmiau Cymraeg gryn lwyddiant yn rhyngwladol - fel Hedd Wyn a wnaeth hanes yn 1994 fel y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar; House of America a Twin Town yn 1997; Human Traffic yn 1999; a'r clasur Solomon a Gaenor, a enwebwyd am Oscar yn 1999.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ddod o hyd i dalent greadigol Gymraeg a'i meithrin, ac mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i'n Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol tair blynedd.

"Rydym yn falch iawn o barhau â'n partneriaeth gyda NFTS Cymru Wales ac S4C i ddatblygu talent iaith Gymraeg trwy gefnogi'r cwrs sgriptio iaith Gymraeg newydd hwn.

"Mae'n enghraifft wych o'n gwaith partneriaeth uwch yng Nghymru, i gyflawni ein huchelgais i dyfu'r sector creadigol, ac i gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Rydym ni am ddiolch i NFTS Cymru Wales a Cymru Greadigol am eu cefnogaeth i'n galluogi i gynnig y cwrs pwysig hwn i ysgrifenwyr, gan roi'r cyfle i bobl o bob cefndir ddod â'u straeon yn fyw ar y sgrin.

"Rydym yn rhannu'r un weledigaeth o fod eisiau gweld diwydiant sgrin Gymreig ffyniannus sy'n cael ei gydnabod a'i ddathlu'n rhyngwladol a, gyda llwyddiant byd-eang ffilmiau diweddar sydd ag is-deitlau, fel The Quiet Girl ac All Quiet on the Western Front, rydyn ni'n gwybod na fydd iaith yn rhwystr i ni."

Dywedodd Judith Winnan, Pennaeth NFTS Cymru Wales: "Rydym ni wrth ein boddau i weithio gyda S4C a Cymru Greadigol i gynnig y cwrs newydd sbon hwn sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i gefnogi cynhyrchu mwy o ffilmiau nodwedd yn yr iaith Gymraeg.

"Mae O'r Sgript i'r Sinema wedi ei deilwra i helpu awduron Cymru ddod o hyd i'w llais cinemateg unigryw eu hunain ac mae'n gyfle gwych i'r rhai na fyddent efallai wedi ysgrifennu sgript o'r blaen i ddysgu crefft sgriptio a sut mae'r diwydiant ffilm yn gweithio."

Mae O'r Sgript i'r Sinema yn gwrs rhan-amser chwe mis a fydd yn dysgu sgriptio ffilmiau nodwedd ac sydd wedi ei greu i gefnogi'r diwydiant ffilm nodwedd Cymraeg. Bydd chwe lle ar gael a, diolch i gefnogaeth Cymru Greadigol, bydd pob un yn derbyn cymhorthdal sylweddol gyda chost o £200 yn unig i bob cyfranogwr.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o addysgu yn y dosbarth, dosbarthiadau meistr a chefnogaeth un-i-un, gyda'r nod o fagu hyder pob awdur – wrth ddatblygu syniadau a'r grefft o ysgrifennu.

Hefyd, bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth o'r broses ddatblygu o fewn y diwydiant ffilm ac yn cynnig hyfforddiant am sut i gyflwyno eu syniadau.

Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, dan arweiniad y gwneuthurwr ffilmiau a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru, Catrin Cooper.

Mae ei gwaith yn cynnwys Alfred and Jakobine (2013) a Honeytrap (2014).

Yr ymgynghorydd cwrs a thiwtor gwadd yw'r awdur/cyfarwyddwr Catherine Linstrum. Mae ei gwaith yn cynnwys Nuclear (2019), Nadger (2010) California Dreamin' (2007) a Dreaming of Joseph Lees (1999).

Mae ceisiadau ar gyfer y cwrs ar agor trwy wefan NFTS Cymru Wales .

Mae'r cwrs ar gyfer awduron ffilm nodwedd newydd a rhai sy'n dechrau dod i'r amlwg ac mae'r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol. Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Mehefin 2023.

Daw'r cyhoeddiad hwn yn ystod wythnos rhyddhau ffilm S4C, Y Sŵn, fydd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru ym mis Mawrth ac sy'n cael ei darlledu ar S4C ym mis Ebrill, i nodi pen-blwydd y sianel yn 40 oed.

Mae'r ffilm, a gafodd ei chynhyrchu gan Roger Williams a'i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones yn adrodd hanes ymgais AS Plaid Cymru, Gwynfor Evans, i orfodi llywodraeth Margaret Thatcher i sefydlu sianel Gymraeg yn y 70au, a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu S4C.

Mae rhai i sêr Y Sŵn yn cynnwys Mark Lewis Jones, Siân Reese-Williams a Rhodri Evan ac ar rediad cyfyngedig o ddangosiadau sinema o 10 – 24 Mawrth 2023.

Gellir dod o hyd i'r amseroedd sgrinio drwy sinemâu ac ar www.yswn.cymru .

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?