Mewn ymateb i gyhoeddi Mesur y Cyfryngau mewn drafft gan yr ADdCCh, dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Rydym yn falch iawn o weld Mesur y Cyfryngau'n cael ei gyhoeddi.
"Bydd hyn yn cadarnhau sefyllfa S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-blatfform ledled y DU a thu hwnt.
"Rydym hefyd yn croesawu'r cynigion i ddiweddaru'r ffordd mae'r cyfryngau'n cael eu rheoleiddio'n gyffredinol yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn y Llywodraeth y llynedd.
"Bydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd brodorol, gan gynnwys Cymraeg, yn rhan o'r cylch gorchwyl newydd ar gyfer teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
"Bydd hefyd yn ymestyn y gyfraith sy'n ymwneud â'r cyfryngau i wylio teledu ar-lein, a sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu cysylltiedig ag yn amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.
"Bydd hyn yn cefnogi'n huchelgais i sicrhau bod y gynulleidfa'n medru canfod S4C ar-alw ar setiau teledu cysylltiedig â bod ein cynnwys Cymraeg yn amlwg ac yn hawdd i wylwyr yng Nghymru ei ganfod.
"Rydym yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ymgynghori ar y Mesur drafft ac edrychwn ymlaen at adolygu manylion y Mesur."
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C:
"Ar ran Bwrdd S4C, dwi'n croesawu'n fawr fod Mesur y Cyfryngau wedi ei gyhoeddi. Bydd hyn yn moderneiddio cylch gorchwyl S4C ar gyfer oes ddigidol, gan adeiladu ar yr argymhellion yn Adolygiad Annibynnol y diweddar Euryn Ogwen Williams o S4C yn 2018.
"Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu'n gwasanaethau ymhellach a rhoi cynnwys Cymraeg ar-alw ar y prif blatfformau ar draws y DU."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?