S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cymru

Tîm menywod Cymru

1 Gorffennaf 2023

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau gemau tîm pêl-droed menywod Cymru gan ddechrau gyda'u gêm yn erbyn Unol Daleithiau America.

Ar Orffennaf y 9fed bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf yn Califfornia, gyda'r uchafbwyntiau i'w gweld ar S4C ar y 10fed.

Dyma'r tro cyntaf i'r tîm chwarae y tu allan i Ewrop, gyda Chymru yn herio'r pencampwyr fel rhan o baratoadau'r Unol Daleithiau i amddiffyn ei teitl yng Nghwpan y Byd.

Medd Angharad James, is-gapten Cymru:

"Rwy'n hynod falch i glywed bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau o'n gemau cenedlaethol, gan ddechrau efo'r gêm yn erbyn y UDA.

"Bydd y gêm yn erbyn pencampwyr y byd yn cynnig y paratoad perffaith cyn i ni ddechrau ar ein hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn mis Medi, lle byddwn ni'n wynebu rhai o dimau cryfaf Ewrop.

"Mae'n bwysig iawn bod yr uchafbwyntiau ar gael ar S4C er mwyn hybu'r iaith Gymraeg ac i ysbrydoli merched i syrthio mewn cariad efo pêl-droed."

Bydd modd gwylio uchafbwyntiau o gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd dros yr Hydref, gyda gemau yn erbyn Yr Almaen, Gwlad yr Iâ a Denmarc.

Medd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth, Cynnwys a Chyhoeddi S4C:

"Mae hi'n gyfnod cyffrous iawn i bêl droed menywod yng Nghymru, ac mewn partneriaeth gyda BBC Cymru, ry'm ni'n edrych 'mlaen i ddod â'r gorau o gemau rhyngwladol ein tîm cenedlaethol i gynulleidfa newydd ar S4C.

Ry'm ni hefyd yn ymrwymo i ddarlledu mwy o gemau o gynghrair yr Adran Premier y tymor nesa, i roi llwyfan haeddiannol i'r gemau wrth i ddiddordeb gynyddu. Mae gennym eisoes berthynas glos gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru, ac ry'm ni'n falch i chware'n rhan i ddatblygu gêm y menywod yng Nghymru."

Mae S4C hefyd am gynyddu darlledu o gemau Adran Genero, Cynghrair Menywod Clybiau Cymru, gyda mwy o gemau nag erioed i'w gweld yn ystod tymor 2023/24.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd gemau tîm dynion Cymru ar gael i'w gweld yn fyw ar S4C tan 2028, ac ymgyrch tîm y dynion dan 21 ar gyfer Pencampwriaethau UEFA 2025 i'w gweld ar blatfformau'r sianel.

S4C – Cartref pêl-droed Cymru.

UDA v Cymru – uchafbwyntiau nos Lun, Gorffennaf 10fed 6pm ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?