S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

28 Gorffennaf, 2023

Bydd modd gweld uchafbwyntiau tair gêm baratoadol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yng nghyfres Gemau'r Haf ar S4C, yn dilyn darllediad o'r gemau yn fyw ar Prime Video.

Lloegr fydd yr ymwelwyr i Stadiwm Principality ar Awst y 5ed, cyn i Gymru deithio i Twickenham ar gyfer yr ail brawf wythnos yn ddiweddarach.

Bydd Cymru yn croesawu De Affrica i Gaerdydd ar gyfer y gêm baratoadol olaf ar Awst 19eg.

Hwn fydd y cyfle olaf i'r cefnogwyr gael gweld y tîm Cenedlaethol cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc fis Medi.

Bryd hynny bydd Cymru yn wynebu Fiji, Portiwgal, Georgia ac Awstralia yn eu grŵp cychwynnol.

Bydd modd gwylio holl gemau Cymru o Gwpan y Byd yn fyw ar S4C.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno'r gemau paratoadol sy'n rhan o gyfres yr haf, gyda Gareth Charles a chyn-gapten Cymru Gwyn Jones yn sylwebu.

Yn dadansoddi'r cyfan bydd y chwaraewyr profiadol Rhys Patchell, Rhys Priestland a Sioned Harries.

Medd Rhys Patchell:

"Dwi'n edrych ymlaen at weld shwt mae'r garfan wedi paratoi dros yr haf. Yn amlwg mae'r gemau yn rhai pwysig gyda potensial i weld chwaraewyr dyn ni heb weld mewn crys Cymru yn cael cyfle i ddangos eu doniau nhw. Hefyd ni am gael y cipolwg cyntaf ar y ffordd mae gêm Warren Gatland a tîm Cymru wedi datblygu ers y chwe gwlad.

"Mae'n gyfnod cyffrous, dyw'r gemau hyn ddim yn rhai hawdd o bell ffordd sydd eto yn beth da achos bydd Cymru wedi paratoi yn drylwyr ar gyfer Cwpan y Byd. Mae'r gemau hyn yn achlysur mawr."

Medd Geraint Evans, cyfarwyddwr strategaeth, cynnwys a chyhoeddi S4C:

"Cyfres yr Haf yw dechrau'r daith i Ffrainc i garfan Cymru ac i ni ar S4C, ac ry' ni'n falch iawn y bydd ein partneriaeth gyda Amazon yn caniatáu i ni ddod ag uchafbwyntiau o'r ddwy gêm yn erbyn Lloegr a phencampwyr y byd, De'r Affrig.

Byddwn ni'n dangos holl gemau Cymru yn fyw yng Nghwpan y Byd, felly gall y gwylwyr edrych mlaen i dri mis o rygbi rhyngwladol o'r safon uchaf ar S4C."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?