S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu Pencampwriaeth y Byd Speedway am y tro cyntaf

29 Gorffennaf, 2023

Bydd S4C yn darlledu'n fyw o Grand Prix Speedway Caerdydd ar Fedi'r 2il, cymal Prydain o bencampwriaeth Speedway y byd.

Stadiwm y Principality fydd y lleoliad ar gyfer y rasio, gyda 16 o yrwyr beiciau modur Speedway gorau'r byd yn brwydro am le ar frig y podiwm.

Fe fyddan' nhw yn mynd benben â'i gilydd o amgylch y trac mewn 23 o gymalau o rasio, ar feiciau modur sydd ag un ger a dim brêc o gwbl.

Bydd to'r stadiwm ar gau ar gyfer y rasio ac mae'r trefnwyr yn addo noson swnllyd o sgriali beiciau modur yn y brif ddinas.

Mae cefnogwyr Speedway wedi heidio i Gaerdydd ers dros dau ddegawd i un o ddigwyddiadau chwaraeon modur mwyaf Prydain.

Cynhaliwyd Speedway yn Stadiwm y Principality am y tro cyntaf yn 2001 a bydd yn ymweld am yr 21ain tro yn 2023.

Gyda tri o Brydain â gobeithion uchel eleni, gan gynnwys enillydd llynedd Dan Bewley, mae'r llwyfan yn barod ar gyfer cynnwrf rasio heb ei hail.

Dan Bewley - pencampwr byd

Tra'n siarad am ddychwelyd i Gymru gan obeithio ei gwneud hi ddwywaith yn olynol, medd Dan:

"Pan wnes i ennill llynedd o'n i wrth fy modd, o'dd hi'n rhywbeth arbennig gydag awyrgylch Caerdydd, roedd tu fewn y stadiwm ac o amgylch y fanzone yn buzzing.

"Ro'n i'n gallu teimlo'r dyrfa wrth yrru fyny'r twnnel ... drwy'r nos dweud y gwir. Mae jyst rhywbeth arbennig am Stadiwm y Principality a'r holl egni gyda'r dyrfa cartref yn mynd yn wyllt.

"Mae 'da fi trip da wedi ei baratoi eleni. Dwi wedi bod i Gymru sawl gwaith wedi diwedd y tymor a dwi'n gwybod bod parciau beicio mynydd gwych ar gael yn agos so falle dyna le fydda i ar ôl diwedd y rasio."

Mae S4C yn gweithio gyda hyrwyddwr byd-eang Speedway, Warner Bros. Discovery Sports Europe i ddarlledu'r rasio.

Wrth drafod y bartneriaeth newydd gyda S4C, dywedodd cyfarwyddwr pencampwriaethau FIM Speedway, Laura Manciet:

"Mae darlledu yn Gymraeg yn galluogi cefnogwyr o bob rhan o Gymru i ddilyn y rasio ac rydym wrth ein boddau i gael ymuno â S4C yn y bartneriaeth hon – mae hi'n blatfform wych i ni gael croesawu cynulleidfa newydd.

"Mae Caerdydd yn le anhygoel i arddangos y chwaraeon hyn – ry'm ni wedi cael cefnogaeth wych bob amser ac yn gobeithio y bydd ein ffans Cymreig yn cael hwyl ychwanegol o'r digwyddiad eleni oherwydd y rhaglen hon. Mi fydd hi'n bendant yn ddiwrnod rasio llawn cyffro ac yn weladwy arbennig o fewn Stadiwm y Principality."

Bydd y darllediad byw yn dechrau am 5.30pm ar ddydd Sadwrn 2il o Fedi gydag uchafbwyntiau ar ddydd Llun 4ydd o Fedi am 9.30pm.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?