S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

6 Medi 2023

Roedd saith enwebiad i ffilm Y Sŵn (Swnllyd), gan gynnwys categori Cyfarwyddwr gorau i Lee Haven Jones, i Roger Williams fel yr awdur ac i Eiry Thomas o ran categori Actores orau.

Cafodd cyfres Stori'r Iaith (Rondo Media) bump enwebiad, gan gynnwys y Gyfres Ffeithiol orau ac hefyd enwebiad i Gruffudd Sion Rees fel Cyfarwyddwr Cyfres Ffeithiol.

Llwyddodd S4C a Boom Cymru i gipio y tri enwebiad ar gyfer y categori Rhaglen Blant, ar gyfer Gwrach y Rhibyn, Mabinogiogi ac Y Goleudy.

Roedd pedwar enwebiad i gyfres Greenham (Tinopolis) a tri enwebiad i Chris a'r Afal Mawr (Cwmni Da).

Cyflwynwyr rhaglenni S4C oedd y pedwar gafodd eu henwebu ar gyfer y categori, Chris Roberts am Chris ar Afal Mawr (Cwmni Da), Emma Walford a Trystan Ellis-Morris am Prosiect Pum Mil (Boom Cymru) ac fe gafodd Lisa Jên a Sean Fletcher enwebiad yr un am eu penodau nhw o Stori'r Iaith (Rondo Media).

Dywedodd Llinos Griffin-Williams Prif Swyddog Cynnwys S4C:

"Llongyfarchiadau mawr i bawb gafodd eu henwebu eleni ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2023."Dwi mor falch o lwyddiant cynnwys S4C gan ei fod yn dangos y talent, creadigrwydd a gwaith caled y sector greadigol yng Nghymru a'r holl gwmnïau cynhyrchu sy'n cyfrannu cynnwys ar ein cyfer."Pob lwc i bawb sydd wedi cael eu henwebu yn seremoni wobrwyo fis nesaf."

Bydd modd gwylio'r rhaglenni S4C gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru ar S4C Clic.

Cynhelir seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ar y 15fed o Hydref yng nghanolfan ICC Cymru yng Nghasnewydd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?