Roedd bron i 350,000 o sesiynau rhwng y cyntaf a'r seithfed o Ionawr.
Yn ogystal â chynnydd o 22% o wylio rhaglenni S4C ar BBC iPlayer yn ystod y cyfnod o gymharu â'r llynedd, mae S4C Clic hefyd wedi gweld cynnydd o 22% yn y gwylio yn yr un cyfnod.
Y rhaglenni ddenodd y nifer mwyaf o wylwyr oedd y gêm bêl-droed rhwng Shrewsbury Town a Wrecsam, a'r gêm ddarbi rhwng y Scarlets a'r Dreigiau.
Roedd bocs set drama newydd S4C, Bariau, hefyd ymhlith y rhaglenni wnaeth berfformio'n dda gyda'r gwylwyr.
Mae S4C wedi derbyn £7.5m o gyllid ychwanegol gan Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datblygu y ddarpariaeth ar blatfformau digidol.
Dywedodd Geraint Evans, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro S4C:
"Wrth i arferion gwylio newid, yr her i S4C yw i sicrhau bod ein cynnwys ar gael i wylwyr ar ba bynnag blatfform sydd fwyaf addas iddyn nhw.
"Ac yn wyneb yr holl gystadleuaeth sydd mas yna, bod ein rhaglenni ni'n creu sŵn ac yn gwneud argraff. Mae'r ffigyrau diweddara yma yn dangos bod y strategaeth aml-blatfform hynny yn llwyddo.
"Drwy ein partneriaeth gyda'r BBC rydym ni nawr yn anelu i gyfoethogi y profiad gwylio ar yr iPlayer, tra ar yr un pryd yn ceisio sicrhau bod S4C Clic ar gael ar ragor o blatfformau gwylio. Ac mae'n rhaid diolch i staff S4C a'n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru am y dyfeisgarwch a'r creadigrwydd sy'n denu cynulleidfaoedd amrywiol atom ni."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?