S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

12 Chwefror 2024

Mae S4C a'r cwmni cynnwys digidol Little Dot Studios wedi cyhoeddi partneriaeth newydd i roi hwb i arlwy platfform YouTube S4C a sicrhau bod cynnwys Cymraeg i'w weld ar draws y byd.

Mae S4C wedi derbyn £7.5m o arian ychwanegol gan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU i ddatblygu'r ddarpariaeth ar lwyfannau digidol.

Bydd rhai o frandiau ac wynebau mwyaf poblogaidd S4C i'w gweld, gan gynnwys sêr soffa Gogglebocs Cymru, anturiaethau byd-eang y cogydd Chris 'Flambaster' Roberts, y ddrama garchar dwyieithog Bariau a chyfres fydd yn dilyn pêl-droediwr Cymru Oli Cooper a'i bartner Tanwen Cray, fydd yn cael ei dangos ar y sianel YouTube yn gyntaf.

Bydd S4C yn cydweithio â Little Dot Studios i sefydlu ffyrdd arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, gan adeiladu ar lwyddiant ei sianel YouTube sydd wedi profi cynnydd o ran niferoedd gwylio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd yn adroddiad blynyddol S4C ar gyfer 2022/23 bod y nifer o oriau o gynnwys S4C a wyliwyd ar YouTube bron wedi dyblu o fewn blwyddyn.

Ymysg y cynnwys fydd ar y platfform bydd cyfres ddwyieithog gyda'r sêr YouTube Jon ac Emilie James 'Camp Out West' – sy'n dogfennu eu profiad o fyw'n ddi-forgais. Bydd hefyd cyfweliadau egsgliwif gyda ffigurau proffil-uchel, o Donald Trump i gydberchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Meddai Chris 'Flamebaster' Roberts, a gipiodd wobr y Cyflwynydd Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru ac RTS Cymru yn 2022 a 2023:

"Mae o mor bwysig i S4C fod o fewn cyrraedd i bawb ac mae YouTube yn ffordd wych o gysylltu efo cynulleidfa newydd.

"Rydym ni'n falch o'n hetifeddiaeth a'n iaith, ac mae'n bwysig i ddiwylliant Cymreig gael ei weld a'i glywed o gwmpas y byd.

"Mae'n brilliant gwybod bydd fy rhaglenni ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube S4C – bydd o yno i'r byd i gyd ei weld!"

Mae Little Dot Studios (cwmni All3Media) a sefydlwyd yn 2013 yn arbenigo mewn creu cysylltiadau rhwng cynnwys o'r radd flaenaf a chynulleidfaoedd digidol.

Meddai James Loveridge, Rheolwr Gyfarwyddwr Adloniant yn Little Dot Studios:

"Wrth gydweithio ag S4C byddwn canolbwyntio ar hyrwyddo etifeddiaeth y darlledwr drwy roi chwyddwydr ar yr iaith Gymraeg ar lwyfannau cymdeithasol byd-eang. Gallwn fanteisio ar llyfrgell helaeth S4C o gynnwys o safon, ac rydym yn rhagweld hwb sylweddol o ran y nifer o gynulleidfaoedd amrywiol fydd yn gwylio, ac yn y pen draw yn cynyddu refeniw i S4C."

Meddai Geraint Evans, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro a Phrif Swyddog Cynnwys S4C:

"Mae S4C yn falch iawn o bartneru gyda Little Dot Studios i gyflwyno cynnwys Cymraeg i gynulleidfa newydd. Mae ein sianel YouTube wedi gweld twf sylweddol dros y bum mlynedd ddiwethaf a nawr rydym ni'n edrych i'w gynyddu ymhellach wrth ddod â chynulleidfa ifanc fyd-eang i mewn."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?