S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

6 Mawrth 2024

Mae S4C wedi sicrhau dau fentor blaenllaw yn y diwydiant i weithio gyda chwmnïau sy'n derbyn buddsoddiad drwy y Gronfa Twf Masnachol.

Mae Nick Catliff a Stuart Baxter eu dau wedi dal swyddi proffil uchel ar draws y diwydiant adloniant.

Bydd y mentoriaid yn gweithio gyda chynghorydd y gronfa, Laura Franses, i ddarganfod a chefnogi cwmnïau twf uchel yng Nghymru o fewn y diwydiannau teledu, ffilm, gemau a thechnoleg.

Stuart Baxter oedd Pennaeth Dosbarthu Rhyngwladol yn Entertainment One, ac roedd yn rhan o uwch dîm Eone a werthodd y busnes gyntaf, ac wedi hynny helpodd Hasbro i werthu'r busnes i Lionsgate.

Cyn hynny roedd Stuart yn rhedeg busnes dosbarthu cynnwys Sony Pictures ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica am 10 mlynedd.

Am y 6 blynedd cyn hynny roedd yn Warner Bros yn arwain eu gweithgareddau Datblygiad Corfforaethol yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Nick Catliff oedd cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Lion Television am 20 mlynedd cyn iddo werthu'r cwmni i All3Media.

Yn ystod ei gyfnod yn Lion creodd y cwmni lawer o sioeau llwyddiannus gan gynnwys Homes Under the Hammer, Horrible Histories, Britain from Above a Cash Cab.

Roedd Nick yn gyd-uwch gynhyrchydd ar Alexander the Great ar Netflix a lansiwyd ym mis Ionawr.

Bwriad y Gronfa Twf Masnachol yw cefnogi cwmnïau o Gymru sydd â photensial twf uchel ac sy'n cyd-fynd â nodau S4C.

Mae'r gronfa yn darparu cyllid yn gyfnewid am gyfran o'r cwmnïau.

Bydd y gronfa'n gweithredu fel catalydd ar gyfer twf ac yn chwarae rhan amlwg wrth sicrhau potensial y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Dywedodd Stuart Baxter:

"Mae Cronfa Twf Masnachol S4C yn gyfle gwych i gwmnïau sy'n awyddus i dyfu.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r mentrau llwyddiannus a rhoi cyngor iddyn nhw wrth geisio gwireddu eu potensial.

"Mae digon o gyfleoedd yn y diwydiant i gwmnïau arloesol a chreadigol sydd â rhywbeth arbennig i'w gynnig."

Dywedodd Nick Cunliff:

""Mae gan gwmnïau Cymreig hanes cryf o ran teledu a ffilm a'n nod yw sicrhau y gall y cwmnïau hynny gyflawni hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.

"Fel mentor byddaf yn cynorthwyo'r busnesau hynny sy'n awyddus i dyfu a sicrhau eu bod yn elwa o'm profiad o'r diwydiant.

"Mae hwn yn gyfle gwych i gwmnïau sydd ag uchelgais i ddenu buddsoddiad a chyngor."

Dywedodd Laura Franses, cynghorydd Cronfa Twf Masnachol S4C:

"Bydd Nick a Stuart yn dod â llawer o brofiad, cyngor a syniadau i'r cwmnïau hynny sy'n ymwneud â'r gronfa.

"Mae cael mentoriaid sydd â phrofiad fel hyn yn hwb enfawr i'r gronfa.

"Mae'r gronfa wedi ymrwymo i fuddsoddi yng Nghymru a thalent Cymru ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw gwmnïau sydd â diddordeb."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?