S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

8 Ebrill 2024

Bydd dau o gyflwynwyr mwyaf eiconig Cymru yn cyflwyno cyfres newydd ar S4C o'r enw Cysgu o Gwmpas a fydd yn dechrau ar nos Lun, Ebrill 8fed am 8yh.

Yn y gyfres bydd y cyflwynydd a'r newyddiadurwraig nodedig Beti George yn teithio hyd a lled Cymru gyda'r cyflwynydd a'r DJ enwog Huw Stephens yn gydymaith iddi.

Mae'r ddau ohonynt yn ymweld â rhai o lefydd aros a bwyta gorau Cymru a ninnau'n dod i adnabod Beti a Huw yn dda iawn wrth i ni wrando ar eu sgyrsiau dros fwyd. Mae'r bwyd yn y gyfres yn sicr yn codi glafoer i'r ddau gyflwynydd ac i'r gwylwyr hefyd.

Medd Beti sydd wedi dathlu ei 85 blwydd oed:

"Dyw menywod fy oedran i ddim fel arfer yn cael cyfle fel hyn, ro'dd e'n gyfle amheuthun â bod yn gwbwl onest. Dim ond Mary Berry a fi sy'n gwneud y pethe 'ma bellach.

"O'n i'n falch mai Huw oedd fy nghyd gyflwynydd achos mae e mor hawdd i fod yn ei gwmni, mae e mor annwyl. Roedd 'na berthynas dda rhwng y ddau ohonom ni. Mae e a'i yrfa fe yn gwbwl wahanol i ngyrfa i, ro'dd hi'n braf i'w holi fe am hynny a'i fywyd e. Wnes i fwynhau ei gwmni mas draw mae'n rhaid dweud.

"Mae fy wyrion Manon a Fin sy'n byw yn Brighton, yn ffans mawr o Huw, felly mae hynny'n neis bo' fi'n gallu dweud wrthyn nhw bod fi'n cyd gyflwyno gyda Huw – o'n i wedi cyrraedd y top!"

Beti George

Mae'r bennod gyntaf mewn cyfres o 6 pennod yn ymweld â Palé Hall ger y Bala. Mae Huw yn aros mewn stafell wedi'i henwi ar ôl Winston Churchill a Beti yn aros mewn stafell wedi'i henwi ar ôl y Frenhines Victoria. Nid yw'r enwau hyn yn creu argraff ar y ddau. Esbonia Beti:

"Â bod yn gwbl onest does gen i ddim diddordeb yn y teulu brenhinol. Fe wrthodais i'r MBE yn rhannol oherwydd y frenhiniaeth a'r ymerodraeth. Mae'n gas gen i feddwl am yr ymerodraeth."

Mae moethusrwydd y gwesty a'r bwyd serch hynny yn taro deuddeg fel wna'r holl lefydd mae'r ddau yn ymweld â nhw ar draws Cymru sydd yn cynnwys Ystâd Penarlâg, Y Grove yn Arberth, Parador 44 yng Nghaerdydd a'r Albion yn Aberteifi.

Wrth ymweld ag Ynyshir yng Ngheredigion mae'r ddau yn cael eu cyflwyno â dim llai na 30 o blatiau bwyd gyda'r chef dwy seren Michelin, Gareth Ward yno i siarad drwyddyn nhw i gyd. Daw yn amlwg bod chef Gareth hefyd yn dipyn o ffan o Huw Stephens.

Medd Huw:

"Wnes i ddim cymryd hir i gytuno i ymweld â gwestai Cymru gyda Beti George mae'n rhaid fi gyfadde'. Mae Beti yn gwmni gwych, ro'dd e'n hyfryd cael cwmni person mor ddiddorol.

"Ro'dd pob gwesty yn cynnig rhywbeth gwahanol. Pob un yn unigryw. Ro'dd e jyst yn bleser gwneud y rhaglen."

Cydymaith ychwanegol ar daith Huw a Beti yw'r gerddoriaeth. Mae dewis gofalus wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod y caneuon yn gweddu i'r lleoliadau arbennig. Mae yna restr chwarae wedi'i chreu ar Spotify yn arbennig i gyd fynd â'r gyfres.

Medd Huw:

"Pob man oeddem ni'n mynd ro'dd fi a Beti yn awgrymu cerddoriaeth er mwyn defnyddio yn y bennod. Ma Beti yn ffan enfawr o gerddoriaeth, mae ganddi ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac artistiaid newydd. Mae'n hyfryd bod cerddoriaeth o Gymru mor bwysig yn y rhaglenni."

Beti George a Huw Stephens sydd yn cyflwyno Cysgu o Gwmpas

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?