S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

1 Ebrill 2024

Mae drama newydd S4C – Creisis - yn camu i fyd bregus iechyd meddwl a galar, wrth ddilyn stori Jamie Morris, nyrs sydd nid yn unig yn ysgwyddo problemau seiciatryddol ei gleifion ond sydd hefyd yn delio â dirywiad difrifol ei feddwl ei hun.

Mae hiwmor tywyll yn perthyn i'r gyfres chwe rhan, sydd wedi'i hysgrifennu gan Anwen Huws (Y Golau). Mae'r stori yn dilyn bywydau'r staff mewn uned argyfwng iechyd meddwl yng nghymoedd De Cymru ac yn canolbwyntio'n benodol ar Jamie, wrth i'w fyd ddechrau chwalu o'i gwmpas.

Mae bywyd Jamie yn anrhefn llwyr, yn ei fywyd personol a phroffesiynol, wrth iddo fynd o un argyfwng i'r llall. Yn ei swydd mae'n gweithio ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned. Adref, mae Jamie'n trio ei orau i fod yn dad ac yn ŵr da.

Gwydion Rhys yw Jamie Morris

Gwydion Rhys sy'n chwarae rhan Jamie, yn ei brif ran gyntaf mewn drama deledu. Mae profiad Gwydion ar y teledu'n cynnwys Hidden/Craith , Gwyll/Hinterland a 35 Diwrnod a'i brofiad yn y theatr yn cynnwys Anthem (Canolfan Mileniwm Cymru), Blue (Chippy Lane Productions), The Wood a One Man Two Guvnors (Torch Theatre) a Hela/American Nightmare (The Other Room).

Dywedodd Gwydion Rhys:

"Mae Jamie yn ymddangos ym mhob golygfa yn y ddrama ac, er o'dd hynny'n ddwys ar adegau, fe nesi drio defnyddio dwyster y cyfnod ffilmio i ychwanegu tuag at y perfformiad.

"Roedd y broses o ddatblygu cymeriad Jamie ei hun yn un gydweithredol iawn o'r cychwyn. Yn sgil briff y clyweliad, benderfynais i saethu un o'r tapie monolog ar fy ffôn symudol ar y ffordd nol o'r school run – yn y gobaith fydde hyn yn adlewyrchu yr agwedd fragmented i bersonoliaeth Jamie. A bues i'n gweithio'n agos gyda'r tîm cynhyrchu i ychwanegu a thynnu o'r deunydd gwreiddiol i siapio'r cymeriad cyn ag yn ystod y cyfnod saethu.

"Er nad oeddwn i wedi chwarae prif gymeriad mewn drama deledu o'r blaen, roedd y profiad yn debyg iawn i fod mewn rôl llwyfan arweiniol. Mae Jamie yn gymeriad erratic ac emosiynol iawn, ond dwi'n gobeithio bydd y gynulleidfa'n cydymdeimlo ag ef. Roedd hi'n bleser chwarae'r rôl a nesi'n siŵr o werthfawrogi'r cyfle i fod ar y set pob diwrnod."

Mae cast Creisis hefyd yn cynnwys Hannah Daniel (Keeping Faith, Hinterland, Holby City), Sara Gregory (Alys, Torchwood, Under Milk Wood), Alex Harries (Y Golau, Keeping Faith), Richard Elis (Eastenders, Coronation Street, The Pact) ac Arwel Gruffydd (Y Sŵn, Hedd Wyn). Mae Creisis yn gynhyrchiad Boom Cymru,cyd-gynhyrchwyr drama Nadolig y BBC, Men Up.

Mae themâu heriol y ddrama yn ffocysu ar iechyd meddwl y rhai sy'n gweithio yn y sector ac yn adlewyrchu straeon am y rhai sy'n byw yng nghanol cymunedau cymoedd Cymru. Cafodd y ddrama ei ffilmio ar leoliad ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd, ac roedd gofalu am iechyd meddwl a llesiant y cast a chriw yn ystod y broses gynhyrchu yn hollbwysig.

Rhian Jones yw Paula

Dywedodd Marged Parry, Cynhyrchydd, Boom Cymru:

"Stori am berthyn yw Creisis, a beth mae'n ei olygu pan mae'r strwythurau sy'n cefnogi rhywun yn dechrau chwalu. Dyma beth sy'n digwydd i Jamie. Mae'n teimlo baich y gyfrifoldeb sydd ar ei ysgwyddau yn cynyddu tan iddo gyrraedd y pen; rwy'n siŵr y bydd llawer yn gallu uniaethu â'i stori.

"Fel cynhyrchwyr, roeddem yn awyddus i bwysleisio wrth y cast a'r criw bod croeso iddynt ddod atom unrhyw bryd i drafod unrhyw elfen o'r ddrama, gan ein bod yn ymwybodol o'r holl themâu heriol roedd y sgriptiau'n ymdrin â nhw.

"Tra'n ffilmio roedd Hwylusydd Lles ar gael ar ddiwrnodau penodedig i gynnig cefnogaeth pellach i bob aelod o'r tîm. Roedd rhybuddion yn cael eu dosbarthu at bawb ar yr amserlenni cynhyrchu oedd yn hysbysu pawb am olygfeydd y gallai beri gofid a phan roedd angen byddai cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud ar y set. Roedd adnoddau pellach ar gael i bawb i gefnogi nhw gyda'u iechyd meddwl a'u lles."

Ychwanegodd Gerwyn Evans, Is Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol:

"Mae Cymru Greadigol yn angerddol am gefnogi'r diwydiant sgrîn yng Nghymru, ac am weithio gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol a darlledwyr i gynhyrchu cynnwys dwyieithog o'r ansawdd uchaf sydd yn gynhenid Gymreig.

"Mae Creisis yn gynhyrchiad gwirioneddol Gymreig, o'r ysgrifennu i'r cast, criw a lleoliadau ffilmio. Mae'r cynyrchiadau hyn yn creu cyfleoedd da i griw profiadol a phobl dan hyfforddiant ddysgu eu crefft, gyda chwe pherson dan hyfforddiant, gan gynnwys un prentis wedi gweithio ar y set. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r sector i wneud Cymru yn un o'r llefydd gorau i sefydlu gyrfa hirdymor ar y sgrîn."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:

"Roeddwn eisiau comisiynu drama oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a sut mae'r system yn gweithio wrth galon cymuned agos. Mae'r ddrama hon yn llwyddo i ddangos hynny wrth i ni wylio ein cymeriad canolog Jamie, yn colli ei afael ar realiti."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?