S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

24 Ebrill 2024

Mae S4C yn falch o gyhoeddi comisiwn am gyfres newydd, Ar y Ffin. Mae'r gyfres chwe' phennod awr o hyd yn gyd-gomisiwn gydag UKTV sydd yn cael ei chynhyrchu gan Severn Screen ac fydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar sianel drosedd UKTV, Alibi. Bydd y gyfres yn cael ei saethu gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Ar y Ffin / Mudtown wedi'i gosod yn bennaf o fewn Llys yr Ynadon, Casnewydd. Mae'r ddrama gyffrous hon wedi'i hysgrifennu gan Hannah Daniel (Un Bore Mercher, Creisis) a Georgia Lee, sydd hefyd yn gweithio fel ynad rhan amser. Bydd y gyfres yn cael ei gwerthu yn rhyngwladol gan All3Media International.

Erin Richards (Gotham, The Crown) fydd yn chwarae'r brif rhan fel Claire Lewis Jones, wrth ochr i Tom Cullen (The Gold, Becoming Elizabeth) fel Saint Pete, Matthew Gravelle (Broadchurch, Steeltown Murders) fel Alun Lewis Jones, Lauren Morais (The Red King) fel Beca Lewis Jones, Lloyd Meredith (The Red King, Gran Turismo) fel Sonny Higgins Kimberly Nixon (The Salisbury Poisonings, Life and Death in the Warehouse) fel Sara Humphries, Sion Pritchard (Pila Pala, The Indian Doctor) fel Davey Johns ac Ifan Huw Dafydd (Y Golau, Mr Bates vs The Post Office) fel Owen Williams.

Dywedodd Georgia Lee a Hannah Daniel: "Rydym wrth ein bodd cael y cyfle i gynrychioli byd llys yr ynadon nad sydd i'w gweld yn aml ar y sgrîn. Mae'r gyfres wedi'i saethu mewn modd sydd yn cynrychioli ysbryd a chymeriad De Cymru. Rydym wedi ein cyffroi i allu dod â'r cymeriadau a'r stori gyffrous hon i'r sgrîn wrth gyd-weithio gyda phartneriaid mor dalentog."

Mae'r gyfres yn dilyn ynad profiadol Claire Lewis Jones wrth iddi wynebu helbulon personol tra'n goruchwylio achosion yn Llys yr Ynadon yng Nghasnewydd. Mae Ned Humphries, ffrind personol Beca, merch Claire, yn wynebu cyhuddiad o losgi bwriadol, ac felly mae teyrngarwch Claire i'w chymuned yn cael ei brofi. Mae'r sefyllfa yn gwaethygu pan mae'n dod i'r amlwg fod y troseddwr nodedig Saint Pete hefyd yn rhan o'r stori.

Mae perthynas Claire a Saint Pete yn mynd nôl beth amser – a fydd ei gorffennol yn bygwth ei phresennol? Wrth iddi ymhél yn ddyfnach i fewn i'r achos, ac wrth i amheuon dyfu o gwmpas cariad newydd ei merch, Sonny Higgins, mae Claire yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a'i theulu mewn peryg.

Wrth i'r gwirionedd gael ei ddatgelu a chanlyniadau ddod i'r amlwg, rhaid i Claire wynebu ei rhagfarnau a'i phenderfyniadau ei hun. Daw'r ffin rhwng beth sy'n gywir ac anghywir yn annelwig, wrth i reddf mamol Claire wrthdaro gyda'i hymrwymiad i gynnal y gwirionedd.

Bydd y ddrama yn cael ei darlledu yn Gymraeg yn gyntaf yn hwyr yn 2024 ar S4C. Ar y Ffin yw enw'r ddrama Gymraeg ac yna bydd i'w gweld yn Saesneg fel Mudtown ar sianel Alibi. Comisiynwyd y gyfres ar ran S4C gan y Pennaeth Sgriptio Gwenllian Gravelle, ac hefyd gan Helen Perry, pennaeth drama yn UKTV, Emma Ayech, cyfarwyddwr y sianel, ac Hilary Rosen, y cyfarwyddwr comisiynau. Ed Talfan ydy uwch gynhyrchydd Severn Screen a bydd y gyfres yn cael ei chynhyrchu gan Hannah Thomas (Steeltown Murders, Craith).

Dywedodd Gwenllian Gravelle pennaeth sgriptio S4C: "Mae S4C yn falch iawn i weithio gyda UKTV ar genre drosedd â llygaid newydd a ffres. Mae'r tîm gwych yn Severn Screen wedi creu drama sy'n adlewyrchu realiti cymuned yn ne Cymru, mae effaith ddynol troseddu yn cael ei roi o dan y chwyddwydr gyda ffraethineb, cadernid a thosturi. Mae gennym gast gwych yn chwarae cymeriadau egnïol, alla i ddim aros i'r gynulleidfa weld y ddrama hon sydd a phlot feistrolgar ac sy'n wledd i'r llygaid."

Meddai Helen Perry:"Mae'n wych cael gweithio gyda Severn Screen a gweithio mewn partneriaeth gydag S4C am y tro cyntaf. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael dod â sgript ffraeth Hannah a Georgia yn fyw mewn ffordd a fydd yn gwneud i'n cynulleidfaoedd chwerthin, crio, ac eistedd ar ymyl eu seddi. Mae'r cymeriadau'n lliwgar, mae'r troseddau'n gymhleth, ac mae'r sioe gyfan yn llawn synnwyr digrifwch. Bydd y gyfres hon yn rhoi math gwahanol iawn o ddrama gyfreithiol i'n cynulleidfaoedd Alibi ac ni allaf aros i'w cyflwyno iddi."

Dywedodd Ed Talfan o Severn Screen: "Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda S4C ac UKTV ar y prosiect cyffrous hwn. Mae'n sgript wych, yn gast cryf ac mae tîm creadigol o'r radd flaenaf yn arwain y cynhyrchiad. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â'r cymeriadau hyn yn fyw ac y daw cynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU a thu hwnt i'w hadnabod."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?