S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

26 Ebrill 2024

Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C am 9pm nos Wener, Ebrill 26ain, Seiclo: Stevie a La Flèche Wallonne. Bydd y rhaglen yn dilyn camp gorchestol y Cymro Cymraeg 27ain oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, Stephen Williams.

Mae'r rhaglen yn dangos uchafbwyntiau'r ras o Wlad Belg wnaeth gymryd lle ar 17eg o Ebrill. Ynddo mae Stevie yn sgwrsio yn egsgliwsif am ei deimladau a'i brofiadau.

Rydym hefyd yn clywed gan seiclwyr Cymraeg eraill fel Geraint Thomas, Luke Rowe, Eluned King ac Elinor Barker.

Meddai Stevie:

"Fi'n berson tawel hyderus, fi'n gwybod bod y coesau 'na. Y trwbl yw gyda seiclo chi'n gallu mynd mewn gyda'r coesau gorau a'r hyder mwyaf yn y byd ond mae pethau yn gallu newid fel gyda'r ras hon gyda'r tywydd, roedd y ras wedi troi 360 ar ôl dim ond awr."

Hon oedd y ras Flèche Wallonne fwyaf anodd a llafurus erioed gyda'r tywydd yn 'apocalyptaidd' yn ôl llawer o arbenigwyr.

Golygodd y tywydd garw bod nifer o'r ffefrynnau i ennill y ras wedi gorfod ei gadael yn gynnar gan gynnwys cyd-aelod Stevie o dîm Israel-Premier Tech a'r gŵr lleol Belgaidd, Dylan Teuns.

Ond fel dywed sylwebwyr Seiclo S4C, Gareth Rhys Owen ac Eluned King yn ystod y ras, roedd Stevie i weld yn gyfforddus drwy'r ras er gwaethaf yr amodau arteithiol. Medd Stevie:

"Yng Nghymru mae'r tywydd yn wael iawn, a hwnna oedd wedi gosod fi lan achos fi'n cofio reidio mewn tywydd afiach. Ro'n i'n reidio lan Cwm Elan yn 2012 yn yr eira a'r glaw mewn dillad doedd ddim yn ffitio fi ar feic doedd ddim yn ffitio fi gyda'r gwynt yn dod mewn i ochr y wyneb."

O'r 174 ddechreuodd y ras, dim ond 44 lwyddodd i'w gorffen. Rhaid oedd tynnu y reidiwr o Ddenmarc, Mathias Skjelmose oedd yn un o'r ffefrynnau i ennill y ras eleni, yn gorfforol i ffwrdd o'i feic ag yntau yn dioddef o symptomau hypothermia.

Meddai Stevie:

"Fi'n cofio meddwl yn y ras, mae popeth mewn mess nawr, mae pawb pob man ar hyd y ffordd. Mae'r tywydd yn dod mewn a does neb efo team mates ar ôl. Fi'n credu gyda 20 neu 30km i fynd ro'n i'n meddwl fi efo siawns i ennill y ras."

Mae Stevie wedi dioddef nifer o anafiadau yn y gorffennol sydd wedi ei atal rhag cystadlu, ond mae eleni yn datblygu o'i blaid wedi iddo ennill y Tour Down Under yn Awstralia fis Ionawr, a nawr La Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg.

Meddai Geraint Thomas enillydd y Tour de France:

"Mae pawb yn ei hoffi. Mae e wedi cael anlwc gydag anafiadau, ond mae'n dda ei weld yn cael cysondeb o'r diwedd.

"Os gall e barhau yn ddianaf a pharhau gyda'r datblygiad hyn mae gydag e flynyddoedd llewyrchus iawn o'i flaen a bydda' i yn edrych ymlaen i'w weld ar y teledu gyda coffi neu gwrw, amser cyffrous."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?