Mae S4C wedi cyhoeddi'r cytundebau cyntaf i gael eu cwblhau gan eu Cronfa Twf Masnachol a'u Cronfa Cynnwys Masnachol.
Mae Cronfa Cynnwys Masnachol S4C wedi cefnogi Hadau Heddwch: CERN yn 70, cyfres sydd yn cael mynediad unigryw i sefydliad CERN wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.
Hefyd yn cael cefnogaeth y gronfa mae'r ddrama i bobl ifanc Hafiach.
Mae Cronfa Twf Masnachol S4C wedi buddsoddi yn Kubos Semiconductors, wrth i'r cwmni ddatblygu technoleg newydd a fydd yn chwyldroi'r diwydiant Realiti Estynedig a'r Byd Rhithiol, gan newid sut rydym yn gwylio cynnwys.
Bydd technoleg microLED Kubos yn golygu disgleirdeb uwch a chysondeb lliw gwell ar declynnau VR, ochr yn ochr â gwell effeithlonrwydd o ran y defnydd o fatris.
Mae S4C yn cymryd cyfran leiafrifol yn y cwmni, ochr yn ochr â buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru a Drew Nelson, sylfaenydd IQE Ltd, prif gwmni lled-ddargludyddion Cymru.
Cafodd Kubos ei sefydlu yn 2017 i fasnacheiddio technoleg a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caergrawnt ac Anvil Semiconductors.
Mae'r Gronfa Twf Masnachol sy'n rhan o strategaeth fasnachol S4C, yn darparu cyllid yn gyfnewid am ecwiti i gwmnïau Cymreig sydd â photensial i dyfu ac sy'n cyd-fynd ag amcanion S4C.
Dan arweiniad Claire Urquhart, mae'r Gronfa Cynnwys Masnachol yn cefnogi prosiectau uchelgeisiol ac apelgar i gynulleidfaoedd rhyngwladol, tra'n rhoi hwb i'r sector creadigol yng Nghymru.
Dywedodd Pennaeth Cronfa Cynnwys Masnachol S4C, Claire Urquhart:
"Mae'r ddau gytundeb cyntaf i'r gronfa yn cynnwys dau gwahanol genre, o raglen ddogfen wyddoniaeth i ddrama i bobl ifanc wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru.
"Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth o brosiectau y bydd S4C yn eu cefnogi a'r cyfoeth o dalent sydd gennym yma yng Nghymru."
Dywedodd Laura Franses, ymgynghorydd Cronfa Twf Masnachol S4C:
"Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein buddsoddiad cyntaf yn Kubos Semiconductors sy'n enghraifft wych o'r sector dechnoleg eithriadol o fywiog sydd yma yng Nghymru.
"Mae 'na lwyth o weithgaredd entrepreneuraidd yn digwydd yma yng Nghymru.
"Mae Kubos yn fusnes sydd â photensial twf uchel gyda thîm rheoli rhagorol.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm a chyhoeddi ein buddsoddiadau eraill sydd ar y gweill i grewyr cynnwys Cymru yn ddiweddarach eleni."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?